Y Medelwr Ieuanc (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Medelwr Ieuanc (cylchgrawn)

Cylchgrawn crefyddol Cymraeg misol ar gyfer plant oedd Y Medelwr Ieuanc. Fe'i seiliwyd ar 'The Young Reaper', cyhoeddiad gan Gymdeithas Cyhoeddiadau Bedyddwyr America.

Cyhoeddwyd 12 rhifyn yn fisol rhwng Ionawr a Rhagfyr 1871.

Golygwyd y cylchgrawn gan fwrdd yn cynnwys Bedyddwyr blaenllaw yn cynnwys Thomas Price[1] (1820-1888), John Rhys Morgan[2] (Lleurwg, 1822-1900) a John Rufus Williams[3] (1833-1877).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Thomas Price, yn Y Bywgraffiadur Cymreig".
  2. "John Rhys Morgan, yn Y Bywgraffiadur Cymreig". Y Bywgraffiadur Cymreig.
  3. "John Rufus Williams, Y Bywgraffiadur Cymreig".
  4. "Cylchgronau Cymru".
Flag of Wales (1959–present).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.