Y Maen Chwyf, Pontypridd

Oddi ar Wicipedia

Clogfaen rhewlifol sy'n weddill o Oes yr Iâ yw'r Maen Chwyf ger Pontypridd. Honnodd Iolo Morganwg fod y maen wedi ei godi gan dderwyddon. Cynhaliodd eisteddfod yno yn 1814. Ym 1849, ychwanegodd Evan Davies (Myfyr Morganwg) gylch o feini llai o'i gwmpas.[1]

Ysgrifennodd Thomas Williams (Gwilym Morganwg) Awen y Maen Chwyf tra yn byw ym Mhontypridd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffith John Williams (1953). "Davies, Evan ('Myfyr Morganwg'; 1801-1888), bardd ac archdderwydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2022.
  2. Thomas John Morgan (1953). "Williams, Thomas ('Gwilym Morganwg'; 1778-1835), bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2022.