Evan Davies (Myfyr Morganwg)
Evan Davies | |
---|---|
Ffugenw | Myfyr Morganwg |
Ganwyd | 6 Ionawr 1801 Cymru |
Bu farw | 23 Chwefror 1888 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hynafiaethydd |
Hynafiaethydd a ffigwr amlwg yn y mudiad Rhamantaidd yn ne Cymru ganol y 19g oedd Evan Davies (6 Ionawr 1801 - 23 Chwefror 1888), a oedd yn fwy adnabyddus i'w gyfoeswyr wrth yr enw Myfyr Morganwg. Roedd yn aelod o gylch Clic y Bont.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Gwneuthurwr watshys wrth ei grefft ym Mhontypridd, ei dref enedigol, oedd Evan Davies. Hawliodd iddo dderbyn mantell "Archdderwydd Beirdd Ynys Prydain" ar ôl marwolaeth Taliesin Williams, mab Iolo Morganwg, yn 1847, ac felly ei fod yn olynydd uniongyrchol i'r derwyddon Brythonaidd.
Ysgrifennodd sawl llyfr ar bwnc derwyddiaeth sy'n amlygu ei ddamcaniaethau anghonfensiynol am darddiad Cristnogaeth fel math o ffurf Iddewig ar Dderwyddiaeth. Damcaniaethu gwyllt a rhamantus a geir yn y llyfrau hyn, fel Gogoniant Hynafol y Cymry (1865), sydd yn amlwg dan ddylanwad rhai o ffugiadau Iolo Morganwg a damcaniaethau rhyfeddol rhai o hynafiaethwyr ac ieithegwyr y 18g a'r 19eg am darddiad a hynafiaeth y Gymraeg. Cynhesai Myfyr Morganwg ddefodau "derwyddol" wrth y Maen Chwyf, ger Pontypridd - maen "derwyddol" sydd â lle pwysig ym mytholeg Iolo Morganwg - ac yn ddiweddarach cynhaliwyd cystadlaethau llenyddol yno.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd sawl llyfr ac erthygl, yn cynnwys:
- Gogoniant Hynafol y Cymry (1865)
- Hynafiaeth Aruthrol (1875)