Y Ddraig Werdd

Oddi ar Wicipedia
Y Ddraig Werdd

Cylchgrawn Cymraeg digidol gan Wyddelod Caerdydd oedd Y Ddraig Werdd. Ymddangosodd yn 1996, ond dim ond dau rifyn a gyhoeddwyd cyn troi'n gyhoeddiad Saesneg. Daeth y cynhyrchwyr o'r gymuned Wyddelig yng Nghaerdydd.

  • Rhifyn 1, Hydref 1996: Bron yn gyfangwbl am y Newyn Mawr
  • Rhifyn 2, Gaeaf 1996: Yn cynnwys cyfeiriadau at ganeuon a llyfrau yn y Gymraeg am Wyddelod (Gwyddel y Pentre Gwyn) a darnau megis Y Pentre Gwyn, gan Robert David Rowland a gyhoeddwyd yn 1909, Pererin gan Vernon Jones; Padi, gan Mynediad Am Ddim a Gwyddel yn y Dre gan Bob Delyn a'r Ebillion.

Roedd y sylfaenwyr yn honni bod rhwng 50% a 60% o drigolion Caerdydd yn ddisgynyddion mewnfudwyr o Iwerddon. Ffurfiwyd "Fforwm y Newyn Cymru" yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 1994 gan aelodau ‘Comhluadar Caerdydd’ sef Cymdeithas Wyddeleg Caerdydd, er mwyn cofio’r Newyn Mawr.

Pwyllgor y Fforwm oedd:

  • Cadeirydd: John Sweeney
  • Golygydd: Barry Tobin
  • Trysorydd: Joe Moore
  • Ymgynghorydd Iaith: Julia Burns
  • Swyddog y Wasg: John O’Sullivan
  • Ymgynghorydd Cyfrifiadur: Andrew Jinks

Cyhoeddwyd hefyd gylchgrawn byrhoedlog yn y Wyddeleg dan yr enw An Briathar Saor gan yr un criw a daeth pedwar rhifyn (rhwng 1994 a 1997) o'r wasg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Draig Werdd (cylchgrawn) - Grŵp o Gymry Iwerddon.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]