Wynne Samuel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd Cymrig oedd Wynne Islwyn Samuel (19125 Mehefin 1989).

Wedi'i eni yn Ystalyfera, bu farw rhieni Samuel pan yn ifanc. Aeth i Ysgol Ramadeg Ystalyfera, a daeth yn ddiacon a phregethwr lleyg yn Eglwys y Bedyddwyr . Er iddo gael cynnig chwarae dros Clwb Criced Morgannwg, perswadiwyd i beidio gwneud gan ei fodryb. Daeth yn glerc i Gyngor Tref Abertawe yn lle [1].

Ymunodd Samuel â Plaid Cymru yn y 1930au cynnar a daeth yn weithredol yn y blaid pan gollodd ei swydd wrth iddo wrthod arwyddo datganiad yn cefnogi Yr Ail Ryfel Byd. Samuel oedd trefnydd y blaid yn neheubarth Cymru o 1940 tan 1950, gan olygu The Welsh Nation, sef cylchgrawn Saesneg y blaid, ac yn cyfrannu at Y Ddraig Goch.

Bu Samuel yn un o gynghorwyr cyntaf Plaid Cymru yn y deheubarth. Safodd yn etholaeth Castell-Nedd yn yr is-etholiad yn 1945 (gan ennill 16.2% o bleidleisiau), a'r etholiad cyffredinol hefyd yn 1945; yn is-etholiad Aberdâr yn 1946 a'r etholiadau cyffredinol yna yn 1950 a 1951. Safodd ym Mhenfro yn 1970 ond chafodd e erioed ei ethol i San Steffan [2].

Yn ei ganol oed, ennillodd raddau yn y gyfraith (Ll.B a Ll.M) o Prifysgol Llundain. Ennillodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon am ei waith am Cyfraith Hywel ac anerchodd sawl gwaith ar statws menywod o fewn Cyfraith Hywel. Cafodd ei alw i'r bar yn 1956 a chafodd cynnig swydd gan y Cenhedloedd Unedig yn Geneva.

Fe ddaeth yn gynghorydd cyfreithiol Cyngor Sir Dyfed pan ffurfiwyd yn 1974 tan iddo ymddeol, a fe oedd sylfaenydd Cymdeithas Bro a Thref Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dr John Graham Jones, "SAMUEL, WYNNE ISLWYN", Welsh Biography Online
  2. Dr John Graham Jones, "SAMUEL, WYNNE ISLWYN", Welsh Biography Online