Wiltshire (awdurdod unedol)
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr |
|---|---|
| Poblogaeth | 498,064 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Wiltshire (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3,255.3381 km² |
| Cyfesurynnau | 51.3164°N 2.21°W |
| Cod SYG | E06000054 |
| GB-WIL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Wiltshire Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Wiltshire, De-orllewin Lloegr, yw Wiltshire.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 3,255 km², gyda 500,024 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag awdurdod unedol Bwrdeistref Swindon i'r gogledd-ddwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerloyw i'r gogledd-orllewin a'r gogledd, rhan fach o Swydd Rydychen i'r gogledd-ddwyrain, Berkshire i'r dwyrain, Hampshire i'r dwyrain a'r de, Dorset i'r de, a Gwlad yr Haf i'r gorllewin.

Ffurfiwyd yr awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2009, pan ddiddymwyd yr hen sir an-fetropolitan Wiltshire. Fe'i crëwyd trwy uno pedair ardal an-fetropolitan yn y sir honno, sef ardaloedd Caersallog, Gogledd Wiltshire, Gorllewin Wiltshire a Kennet. (Roedd hen ardal an-fetropolitan Thamesdown wedi dod yn awdurdod unedol ar wahân ym 1997, ac wedi cael ei ailenwi'n Fwrdeistref Swindon.)
Rhennir y awdurdod yn 259 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei bencadlys yn nhref Trowbridge. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys dinas Caersallog a'r threfi canlynol:
- Amesbury
- Bradford on Avon
- Calne
- Corsham
- Cricklade
- Chippenham
- Devizes
- Ludgershall
- Malmesbury
- Marlborough
- Melksham
- Mere
- Royal Wootton Bassett
- Tidworth
- Warminster
- Westbury
- Wilton
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 5 Tachwedd 2020
