Wilson Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wilson Jones
Ganwyd 1795 Edit this on Wikidata
Rhuthun Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Hydref 1864 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Aelod Seneddol, y Deyrnas Unedig, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd Wilson Jones (tua 1794 -27 Hydref 1864) yn Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1835 a 1841.[1]

Roedd Jones yn fab i John Jones, Cefn Coch Rhuthun ac Elizabeth, merch ac etifedd Edward Wilson, Lerpwl.

"Cefn Coch", Rhuthun, ble trigai ei hynafiaid ers y 15g.

Ym 1822 Priododd Cecil merch John Carstairs, Warboys Swydd Huntingdon, bu iddynt 4 mab a 4 merch. Bu ei fab hynaf, John Carstairs Jones, yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1866 a Sir Dinbych yn 1874. Priododd un o'u merched, Elizabeth Jane, ag Edmund Swetenham, AS Caernarfon.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1831.

Daeth yn berchennog ar ystadau Cefn Coch Gelli Gynnan, Llanarmon a Heartsheath, Yr Wyddgrug.

Bu farw yn Heartsheath ym 1864 yn 70 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Edward Madocks
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych
18351841
Olynydd:
Townshend Mainwaring