Neidio i'r cynnwys

Cystadleuaeth Wici Henebion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Wici Henebion)
Inffograffig yn dangos geotagio otomatig, categoreiddio a llawer o'r gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llen.
Mae'r wefan i uwchlwytho'r ffotograffau o Gymru ar Comin yma. Ceir teclyn pwrpasol hefyd, gyda map, yma.

Cystadleuaeth flynyddol mewn ffotograffiaeth ydy Cystadleuaeth Rijksmonument neu Wici Henebion (Saesneg: Wiki Loves Monuments) a gaiff ei gweinyddu bob mis Medi. Trefnir gan gymuned Wicipedia fyd-eang ac yn 2012 roedd 31 ffotograffydd o wahanol wledydd wedi cystadlu.[1] Canolbwyntir ar dynnu lluniau o adeiladau hanesyddol.

Cychwynwyd y gystadleuaeth yn yr Iseldiroedd yn 2010, ond ymledodd drwy Ewrop yn sydyn iawn ac o fewn blwyddyn, yn ôl y Guinness Book of Records, dyma oedd y gystadleuaeth tynnu lluniau fwyaf drwy'r byd.[2]

Logo Wici Henebion

Sefydlu

[golygu | golygu cod]

Hysbyswyd y gystadleuaeth yn wreiddiol am luniau "Rijksmonument" (sef yr Iseldireg am henebion cenedlaethol) ac ysbrydolwyd ffotograffwyr i dynnu lluniau'r henebion hyn yn yr Iseldiroedd. Roedd y Rijksmonument yn cynnwys pensaerniaeth a gwrthrychau o ddiddordeb cyffredinol a oedd yn hynod am eu prydferthwch, eu nodweddion gwyddonol neu ddiwylliannol. Yn eu plith yr oedd safle archaeolegol Drenthe, Plasdy Brenhinol Noordeinde yn yr Hague a'r tai diddorol ar hyd y camlesi yn Amsterdam. Danfonwyd dros 12,500 o luniau i'r gystadleuaeth.[3]

Lluniau o Gymru

[golygu | golygu cod]

Yn 2014 tynnwyd oddeutu 20% o'r lluniau drwy wledydd Prydain yng Nghymru

Castell Cas-gwent; 2014

ac yn 2017 cafwyd bron i 1,500 yn fwy o luniau o Gymru nag o Loegr.

2013 - 1,748
2014 - 1,426
2015 - Wikimedia UK yn peidio cymryd rhan
2016 - 685
2017 - 6,824[4]
2018 - 1,305
2019 - 6,223
2020 - 408
2021 - dim
2022 - 1,775
2023 - 3,102

Un o'r enillwyr yn 2014 oedd llun Karen Sawyer - a roddodd ei llun ar yr erthygl gyfatebol ym Mis Medi - dim ond ar y wici Cymraeg! Dyma'r tro cyntaf i lun o Gymru gyrraedd y brig.

Gwâl y Filiast

Rhai cyn-enillwyr

[golygu | golygu cod]
Rhai ffotograffau eraill o Gymru (2023)