Llangystennin Garth Brenn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Welsh Bicknor)
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°51′18″N 2°35′19″W / 51.855064°N 2.588711°W / 51.855064; -2.588711

Llangystennin Garth Brenn
Church at Welsh Bicknor.jpg
Eglwys Welsh Bicknor
Welsh Bicknor is located in Y Deyrnas Unedig
Welsh Bicknor

Welsh Bicknor
Cyfeirnod grid yr AO SO595175
Awdurdod unedol Swydd Henffordd
Swydd seremonïol Swydd Henffordd
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Ross-On-Wye
Cod deialu 01594
Heddlu
Tân
Ambiwlans
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Gorllewin Canolbarth Lloegr
Senedd y DU Henffordd a De Swydd Henffordd
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Pentref yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth, Lloegr ydy Llangystennin Garth Brenni[1] er gwaethaf ei enw Saesneg: Welsh Bicknor. Hyd at 1844 roedd y pentref o fewn Sir Fynwy, Cymru.[2] Tua dwy filltir i'r gogledd mae tref Rhosan ar Wy a phedair milltir i'r de-orllewin: Mynwy.

Tref weinyddol Swydd Henffordd ydy Henffordd a fu yn yr Oesoedd Canol yn bencadlys ymosodiadau'r Normaniaid ar dde-ddwyrain Cymru, gyda Llwydlo.[3]

Dywedir i Harri V, brenin Lloegr fyw pan oedd yn blentyn yn y Maendy lleol, sef Courtfield (hefyd Greyfield a Greenfield), yn dilyn marwolaeth cynamserol ei fam Mary de Bohun, dan ofal yr Arglwyddes Margaret Montacute. Ceir cofeb i Margaret Montacute yn yr eglwys leol.

Perthyn i deulu'r Fychaniaid oedd y tiroedd hyn ar un adeg, a maenordy Courtfield hefyd, a cheir pentref i'r de (dros yr afon) o'r enw English Bicknor ac sydd yn Swydd Gaerloyw. Yn 1651 dygwyd holl diroedd Richard Vaughan (a oedd yn Babydd) gan Goron Lloegr a'u rhoi i Phillip Nicholas o Lan-soe, ym Mynwy.

Parhaodd disgynyddion Richard Vaughan i wrthwynebu'r drefn Saesnig ac yn 1715 gwrthododd John Vaughan dyngu llw o ffyddlondeb i Siôr I, brenin Prydain Fawr.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]