Llangystennin Garth Brenn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llangystennin Garth Brenn
Math pentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Swydd Henffordd
Daearyddiaeth
Sir Swydd Henffordd‎
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.8551°N 2.5887°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04000901 Edit this on Wikidata
Cod OS SO595175 Edit this on Wikidata

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Llangystennin Garth Brenni[1] (Saesneg: Welsh Bicknor).[2][3] Hyd at 1844 roedd y pentref o fewn Sir Fynwy, Cymru.[4] Tua dwy filltir i'r gogledd mae tref Rhosan ar Wy a phedair milltir i'r de-orllewin mae Mynwy.

Dywedir i Harri V, brenin Lloegr fyw pan oedd yn blentyn yn y Maendy lleol, sef Courtfield (hefyd Greyfield a Greenfield), yn dilyn marwolaeth cynamserol ei fam Mary de Bohun, dan ofal yr Arglwyddes Margaret Montacute. Ceir cofeb i Margaret Montacute yn yr eglwys leol.

Perthyn i deulu'r Fychaniaid oedd y tiroedd hyn ar un adeg, a maenordy Courtfield hefyd, a cheir pentref i'r de (dros yr afon) o'r enw English Bicknor ac sydd yn Swydd Gaerloyw. Yn 1651 dygwyd holl diroedd Richard Vaughan (a oedd yn Babydd) gan Goron Lloegr a'u rhoi i Phillip Nicholas o Lan-soe, ym Mynwy.

Parhaodd disgynyddion Richard Vaughan i wrthwynebu'r drefn Saesnig ac yn 1715 gwrthododd John Vaughan dyngu llw o ffyddlondeb i Siôr I, brenin Prydain Fawr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Herefordshire arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Henffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.