War Horse (ffilm)
War Horse | |
---|---|
Poster o'r cynhyrchiad theatr | |
Cyfarwyddwyd gan | Steven Spielberg |
Cynhyrchwyd gan |
Steven Spielberg Kathleen Kennedy |
Sgript |
Lee Hall Richard Curtis |
Seiliwyd ar |
War Horse by Michael Morpurgo |
Yn serennu |
Emily Watson David Thewlis Peter Mullan Niels Arestrup Jeremy Irvine |
Cerddoriaeth gan | John Williams |
Sinematograffi | Janusz Kamiński |
Golygwyd gan | Michael Kahn |
Stiwdio |
Touchstone Pictures DreamWorks Reliance Entertainment Amblin Entertainment The Kennedy/Marshall Company |
Dosbarthwyd gan |
Walt Disney Studios Motion Pictures |
Rhyddhawyd gan | Nodyn:Filmdate |
Hyd y ffilm (amser) | 146 munud[1] |
Gwlad |
Unol Daleithiau America India[2] |
Iaith | Saesneg |
Cyfalaf | $66 miliwn |
Gwerthiant tocynnau | $177.6 miliwn[3] |
Ffilm a ryddhawyd yn 2011, yn seiliedig ar lyfr 1982 Michael Morpurgo ydy War Horse. Cyhoeddwyd y llyfr gan Kaye a Ward. Roedd Emily Watson, David Thewlis, Peter Mullan, Niels Arestrup a Jeremy Irvine yn actio yn y ffilm. Cafodd ei chyfarwyddo gan Steven Spielberg a'i chynhyrchu ar y cyd gyda Kathleen Kennedy. Adrodda'r ffilm hanes Albert Narracott a'i geffyl Joey.
Rhyddhawyd y ffilm War Horse yn yr Unol Daleithiau gan Touchstone Pictures a cafodd ei chynhyrchu gan Dreamworks. Dewison nhw'r cast am War Horse yn 17 Mehefin 2010.
Cafodd 'War Horse' ei enwebu am chwech o Wobrau'r Academi yn cynnwys y Ffilm Orau, dau Golden Globe a phump BAFTA.
Plot[golygu | golygu cod y dudalen]
Adrodda'r ffilm hanes Albert Narracott o Ddyfnaint yn 1912 gyda'i geffyl Joey. Maent yn byw a'r ffarm a gorfodir Joey i fynd i'r rhyfel fel ceffyl rhyfel. Gan ei fod mor hoff o'i geffyl, ceisia Albert hefyd enlistio gyda'r fyddin i fod gyda Joey ond mae'n rhy ifanc. O ganlyniad mae Joey'n mynd i'r rhyfel gyda cheffyl arall, Topthorn. Gwelir Joey'n mynd ar lawer o anturiaethau gyda llawer o wahanol bobl. Yn y diwedd mae Albert yn ffeindio Joey a mae'n yn ei dywys adref i'r ffarm.
Yn gyffredinol, roedd War Horse yn boblogaidd mewn sinemau a chafodd adolygiadau cadarnhaol.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "War Horse (12A)". British Board of Film Classification. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2011.
- ↑ http://explore.bfi.org.uk/4f4bb4a882c89
- ↑ "War Horse". DreamWorks Studio. Los Angeles. Cyrchwyd 9 Mai 2011.