Neidio i'r cynnwys

Wacari

Oddi ar Wicipedia
Wacari
Wacari mewn cyrchfan coedwig ym Manaus, Brasil.
Enghraifft o:tacson Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonPitheciinae Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02l9fr edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enw ar unrhyw un o'r sawl rhywogaeth o fwnci yn y genws Cacajao yw wacari (ffurfiau lluosog: wacarïod, wacarïaid).[1] Mae'r genws yn cynnwys pedair rhywogaeth: y wacari moel neu goch (sy'n cynnwys pedair is-rywogaeth), y wacari eurgefn neu benddu, wacari Aracá, a wacari Neblina. Mae'r genws Cacajao yn perthyn i Pitheciidae, un o'r pum teulu o fwncïod y Byd Newydd, teulu sydd hefyd yn cynnwys y titïod a'r sacïod.

Rhywogaethau

[golygu | golygu cod]

Cydnabyddir pedair rhywogaeth yn y genws hwn:[2][3]

  • Genws Cacajao
    • Wacari moel neu wacari coch, Cacajao calvus
      • Cacajao calvus calvus
      • Cacajao calvus ucayalii
      • Cacajao calvus rubicundus
      • Cacajao calvus novaesi
  • Grŵp y rhywogaethau penddu:
    • Wacari eurgefn neu wacari penddu, Cacajao melanocephalus
    • Wacari Aracá, Cacajao ayresi*
    • Wacari Neblina, Cacajao hosomi*

Yn 2014 cynigwyd tacsonomeg arall gan Ferrari et al. ar gyfer y grŵp penddu, sy'n ystyried wacari Aracá yn is-rywogaeth i'r wacari eurgefn, ac hefyd yn cydnabod Cacajao ouakary fel rhywogaeth ar wahân. Ni dderbynir yr adolygiad hwn gan bawb, ac yn ôl y consensws ar hyn o bryd mae C. ouakary yn gyfystyr â C. melanocephalus..[4][5][6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, "uacari".
  2. Nodyn:MSW3 Primates
  3. Boubli, J. P.; M. N. F. da Silva; M. V. Amado; T. Hrbek; F. B. Pontual; I. P. Farias (2008). "A taxonomic reassessment of black uakari monkeys, Cacajao melanocephalus group, Humboldt (1811), with the description of two new species". International Journal of Primatology 29: 723–749. doi:10.1007/s10764-008-9248-7. http://www.evoamazon.net/Legal_papers/Boubli%202008.pdf.
  4. Ferrari, Stephen F.; Guedes, Patricia G.; Figueriredo-Ready, Wilsea M.B.; Barnett, Adrian A. (2014). "Reconsidering the taxonomy of the Black-Faced Uacaris, Cacajao melanocephalus group (Mammalia: Pitheciidae), from the northern Amazon Basin". Zootaxa 3866 (3): 353–370. doi:10.11646/zootaxa.3866.3.3. PMID 25283664.
  5. "Cacajao". ASM Mammal Diversity Database. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-26. Cyrchwyd 2019-07-24.
  6. "Cacajao". ITIS. Cyrchwyd 2 September 2022.