Władysław Reymont

Oddi ar Wicipedia
Władysław Reymont
Władysław Reymont
GanwydWładysław Stanisław Rejment Edit this on Wikidata
7 Mai 1867 Edit this on Wikidata
Kobiele Wielkie Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1925 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Peasants, The Promised Land Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNational League, Polish People's Party "Piast" Edit this on Wikidata
PriodAurelia Szacnajder Szabłowska Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Commandeur de la Légion d'honneur‎, Swyddog yn Urdd y Polonia Restituta, Cadlywydd Urdd Polonia Restituta, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Urdd yr Eryr Gwyn Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd ac awdur straeon byrion Pwylaidd oedd Władysław Stanisław Reymont (7 Mai 18675 Rhagfyr 1925) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1924 am ei nofel epig genedlaethol Chłopi (1904–09).[1]

Ganed Władysław Stanisław Rejment ym mhentref Kobiele Wielkie, ger Łódź, yng Ngwlad Pwyl y Gyngres, dan dra-arglwyddiaeth Ymerodraeth Rwsia. Ni chwblhaodd ei addysg yn yr ysgol, ac aeth yn brentis mewn siop ac yn frawd lleyg. Gweithiodd hefyd yn swyddog ar y rheilffyrdd ac yn actor yn ystod ei ieuenctid. Mae dwy o'i nofelau cynnar, Komediantka ("Digrifwraig"; 1896) a Fermenty (1897), yn seiliedig ar ei brofiadau ym myd y theatr.[2]

Un o'i nofelau pwysicaf yw Ziemia obiecana ("Gwlad yr Addewid"; 1899), sydd yn portreadu perchnogion y ffatrïoedd gwehyddu yn Łódź. Ysgrifennai hefyd straeon byrion am fywydau gwerin gwlad a ddylanwadwyd yn gryf gan naturiolaeth. Ei gampwaith yw'r nofel epig Chłopi ("Gwerinwyr"), a gyhoeddwyd mewn pedair cyfrol o 1904 i 1909. Dyma gronicl o fywyd yng nghefn gwlad y Bwyldir drwy bedwar tymor y flwyddyn, wedi ei ysgrifennu yn bennaf mewn tafodiaith werinol.

Ymhlith ei weithiau diweddar mae Rok 1794 (tair cyfrol, 1913–18), nofel hanesyddol am adladd Ail Raniad Gwlad Pwyl a Gwrthryfel Kościuszko ym 1794, a Wampir (1911) sydd yn ymwneud â mudiad yr ysbrydegwyr. Bu farw Władysław Reymont yn Warsaw yn 58 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1924", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 25 Chwefror 2022.
  2. (Saesneg) Władysław Stanisław Reymont. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Chwefror 2022.