Virginia Zeani

Oddi ar Wicipedia
Virginia Zeani
GanwydVirginia Zehan Edit this on Wikidata
21 Hydref 1925 Edit this on Wikidata
Solovăstru Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 2023 Edit this on Wikidata
West Palm Beach, Florida Edit this on Wikidata
Man preswylWest Palm Beach, Florida Edit this on Wikidata
Label recordioDecca Records, RCA Italiana, Electrecord, World Record Club Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwmania Rwmania
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
PriodNicola Rossi-Lemeni Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadlywydd Urdd Teilyngdod Weriniaeth yr Eidal, Knight of the Order of the Star of Romania, Royal Decoration of Nihil Sine Deo Edit this on Wikidata

Cantores opera Rwmanaidd oedd Virginia Zeani, Commendatore OMRI (ganwyd Virginia Zehan ; 21 Hydref 192520 Mawrth 2023). Canodd rolau soprano yn nhai opera Ewrop a Gogledd America.[1]

Cafodd Zeani ei geni ym mhentref Solovăstru yn Transylvania. Dywedodd hi fod cerddoriaeth wedi "mynd i mewn i'w henaid" ar ôl clywed band o sipsiwn yn chwarae hora. Daeth yn benderfynol o fod yn gantores opera ar ôl clywed perfformiad o Madama Butterfly.[2]

Gwnaeth Zeani ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf ym 1948 fel Violetta yn La traviata, a fyddai'n dod yn un o'i phrif rolau. Perfformiodd y rôl 'ma dros 640 o weithiau. [3]

Gwnaethpwyd Zeani yn Gadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Eidalaidd yn 1965. Yn ei mamwlad Rwmania derbyniodd Addurniad Brenhinol Nihil Sine Deo yn 2011. Cafodd ei gwneud yn Farchog Urdd Seren Rwmania yn 2016. Enillodd Gwobr Puccini o Ŵyl Fondazione Pucciniano ym 1992. [4][5][6]

Bu farw Zeani yn Fflorida, UDA, yn 97 oed.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mesa, Franklin (2007). Opera: An Encyclopedia of World Premieres And Significant Performances, Singers, Composers, Librettists, Arias and Conductors, 1597–2000 (yn Saesneg). Jefferson, NC, UDA: McFarland & Company. t. 450. ISBN 978-0-7864-0959-4.
  2. Eyman, Scott (11 Medi 2013). "The Quiet Diva: Virginia Zeani was one of the world's great opera singers – but gave up wider fame for life as a wife and mother" Archifwyd 2018-12-09 yn y Peiriant Wayback.. The Palm Beach Post. Adalwyd 18 Chwefror 2017. (Saesneg)
  3. Bergeron, Olivier (2 Medi 2015). "Interviewing the Greats: Virginia Zeani". Schmopera (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2019.
  4. "Puccini Award – Fondazione Festival Pucciniano". puccinifestival.it. Cyrchwyd 16 Chwefror 2017.
  5. IU Staff (11 Medi 2012). "Distinguished Professors Emeritae McBride, Zeani receive IU President's Medal" (yn en). IU News Room (Bloomington, Indiana: Prifysgol Indiana). http://newsinfo.iu.edu/news-archive/23089.html. Adalwyd 16 Chwefror 2017.
  6. Arnove, Robert F. (2015). Talent Abounds: Profiles of Master Teachers and Peak Performers. pp. 88–95. Routledge. ISBN 1317251016 (Saesneg)
  7. "Virginia Zeani, Versatile and Durable Soprano, Dies at 97". New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mawrth 2023.