Vera Menchik
Gwedd
| Vera Menchik | |
|---|---|
| Ganwyd | 16 Chwefror 1906 (yn y Calendr Iwliaidd) Moscfa |
| Bu farw | 26 Mehefin 1944 Clapham |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | chwaraewr gwyddbwyll |
| Priod | Rufus Henry Streatfeild Stevenson |
| Gwobr/au | Women's World Chess Championship |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Lloegr, Tsiecoslofacia |
Roedd Vera Frantsevna Menchik (16 Chwefror 1906 – 26 Mehefin 1944) yn chwaraewr gwyddbwyll o Tsiecoslofacia. Menchik oedd pencampwr gwyddbwyll byd cyntaf menywod.[1]
Cafodd ei geni ym Moscfa, Rwsia, yn ferch i František Menčík o Bohemia a'i wraig Seisnig (ganwyd Olga Illingworth). Roedd ei chwaer, Olga Menchik, hefyd yn chwaraewr gwyddbwyll. Ym 1921 aethant i fyw i Hastings, Lloegr, gyda'u mam. Priododd Rufus Stevenson ym 1937 a bu farw Stevenson ym 1943.
Bu farw Vera, ei chwaer Olga, a'u mam mewn cyrch awyr ym 1944 pan syrthiodd bom hedegog V-1 gan ddinistrio'u tŷ yn Clapham, De Llundain.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Robert B. Tanner (18 September 2016). Vera Menchik: A Biography of the First Women's World Chess Champion, with 350 Games. McFarland. ISBN 978-1-4766-2498-3.
- ↑ The Encyclopaedia of Chess. St. Martin's Press. 1970. t. 306.