Vasyl Ellan-Blakytny
Vasyl Ellan-Blakytny | |
---|---|
Vasyl Ellan-Blakytny ym 1923 | |
Ffugenw | Vasyl' Ellan |
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1893 (yn y Calendr Iwliaidd) Khmilnytsia |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1925 Kharkiv |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr, bardd, chwyldroadwr, person cyhoeddus |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Borotbists, Ukrainian Socialist-Revolutionary Party |
Gwobr/au | Order of the Red Banner of Labour of the Ukrainian SSR |
llofnod | |
Chwyldroadwr a gwleidydd o Wcráin, bardd a newyddiadurwr yn yr iaith Wcreineg oedd Vasyl Ellan-Blakytny (Василь Еллан-Блакитний; 9 Ionawr 1894 – 4 Rhagfyr 1925).
Ganed Vasyl Ellansky yn Mykhailo-Kotsiubynske, ar gyrion Chernigov, Ymerodraeth Rwsia (bellach Chernihiv, Wcráin), ym 1894. Ymunodd â'r adain-chwith chwyldroadol tra'n astudio yng Ngholeg Diwinyddol Chernigov, ac yn sgil Chwyldro Chwefror 1917 ymaelododd â'r Blaid Sosialaidd–Chwyldroadol Wcreinaidd (UPSR) pan oedd yn fyfyriwr yn Athrofa Fasnachol Kiev.[1]
Blakytny oedd un o sefydlwyr y Borotbisty ("Ymladdwyr"), carfan a ymrannai oddi ar yr UPSR ym Mai 1918, ac yn olygydd papur newydd y blaid Borot'ba ac un o arweinwyr Borotba, cylch o awduron a oedd yn gysylltiedig â'r Borotbisty. Cefnogai Blakytny gyfuno'r Borotbisty â Phlaid Gomiwnyddol (Folsieficaidd) Wcráin—plaid lywodraethol Gweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Wcráin—ym 1920, yn unol â dyfarniad gan y Comintern i ddiddymu'r Borotbisty. Penodwyd Blakytny yn aelod o Bwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol (Folsieficaidd) ym 1920.[1]
Penodwyd ef yn gyfarwyddwr Cyhoedd-dy Gwladwriaethol Wcráin ac yn brif olygydd Visti VUTsVK—prif bapur newydd y llywodraeth Sofietaidd yn Wcráin—ym 1921.[2] Yn Kharkiv yn Ionawr 1923 sefydlodd Blakytny grŵp o'r enw Hart i lenorion proletaraidd yn Wcráin. Cyhoeddai Blakytny y rhan fwyaf o'i waith, gan gynnwys barddoniaeth, straeon byrion, dychan a pharodi, ac erthyglau, mewn cylchgronau a newyddiaduron Wcreinaidd. Vasyl Blakytny oedd ei brif ffugenw, ond ysgrifennai ei waith hefyd dan yr enwau Valer Pronoza, Markiz Popeliasty, Vasyl Ellan, A. Ortal Hart, a Pronoza Mriinyk.[1]
Bu farw yn Kharkiv ym 1925 yn 31 oed. Yn ystod y Carthiad Mawr yn yr Undeb Sofietaidd yn y 1930au datganodd y llywodraeth fod gwaith Blakytny yn gefnogol i genedlaetholdeb Wcreinaidd ac o ganlyniad fe'u gwaharddwyd. Dinistriwyd hefyd y gofeb iddo yn Kharkiv. Câi enw Blakytny ei ailsefydlu yng nghyfnod y dad-Stalineiddio, a chyhoeddwyd ddetholiad o'i newyddiaduraeth a barddoniaeth ym 1958 (dwy gyfrol) ac ym 1964.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Blakytny, Vasyl", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 26 Mawrth 2022.
- ↑ Luckyj, George (1992). Ukrainian literature in the twentieth century: a reader's guide (yn Saesneg). Toronto Buffalo: University of Toronto Press. t. 35. ISBN 9780802050199.