Vanessa Kirby

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Vanessa Kirby
Vanessa Kirby.png
Kirby yn 2017
Ganwyd (1988-04-18) 18 Ebrill 1988 (31 oed)
Wimbledon, Llundain, Lloegr
Yn enwog amThe Crown, Mission: Impossible - Fallout
GalwedigaethActores

Mae Vanessa Kirby (ganed 18 Ebrill 1988[1]) yn actores lwyfan, teledu a ffilm Seisnig. Serennodd fel Stella yn addasiad y BBC o Great Expectations yn 2011 a fel Joanna yng nghomedi rhamantus Richard Curtis About Time yn 2013. O 2016 i 2017, chwaraeodd Kirby y Dywysoges Margaret yng nghyfres Netflix Peter Morgan The Crown a fe'i derbyniwyd enwebiad ar gyfer Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau. Fe'i hadnabyddir yn bennaf am ei gwaith ar y llwyfan; ac yn 2016 dywedodd Variety mai hi "yw'r actores lwyfan rhagorol ei chenhedlaeth."[2]

Ymddangosa Kirby yn Mission: Impossible - Fallout yn 2018.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]