Valentino Rossi
| Valentino Rossi | |
|---|---|
| Ffugenw | The Doctor (Il Dottore), Rossifumi, Valentinik |
| Ganwyd | 16 Chwefror 1979 Urbino |
| Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
| Galwedigaeth | rasiwr motobeics, gyrrwr ceir cyflym, team manager, mabolgampwr |
| Taldra | 1.82 metr |
| Tad | Graziano Rossi |
| Partner | Linda Morselli |
| Gwobr/au | Gazzetta Sports Awards, Laureus World Sports Awards, Telegatto, Marca Leyenda, Piloto del Año Solo Moto, Laureus World Sports Award for Comeback of the Year, MotoGP Legends |
| Gwefan | http://www.valentinorossi.com |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Aprilia Racing, Honda Racing, Yamaha Factory Racing, Ducati MotoGP Team, Yamaha Factory Racing, Sepang Racing Team |
| llofnod | |
Gyrrwr beiciau modur proffesiynol yw Valentino Rossi (ganed Urbino, 16 Chwefror 1979)[1]. Mae wedi ennill pencampwriaeth Moto GP aml i waith. Mae'n un o'r gyrwyr beiciau modur mwyaf llwyddiannus erioed wedi iddo ennill saith o bencampwriaethau'r Byd. Mae'n un o'r bobl sydd yn ennill y mwyaf o arian mewn chwaraeon gydag amcangyfrifon iddo ennill $34 miliwn yn 2007.
Gan ddilyn ei dad, Graziano Rossi, dechreuodd Valentino rasio yn 1996 i dîm Aprilia yn y categori 125cc, ac enillodd ei Bencampwriaeth Byd y flwyddyn ganlynol. Wedyn symudodd i fyny i gategori 250cc, hefyd gyda Aprilia, ac enillodd Bencampwriaeth y Byd yn 1999. Enillodd Bencampwriaeth y Byd 500cc gyda Honda yn 2001, pencampwriaeth y Byd Moto GP yn 2002 a 2003 gyda Honda, hefyd enillodd y bencampwriaeth yn 2004 a 2005 ar ôl symud o Honda i Yamaha.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-24. Cyrchwyd 2008-09-05.