Val Kilmer
| Val Kilmer | |
|---|---|
| Ganwyd | Val Edward Kilmer 31 Rhagfyr 1959 Los Angeles |
| Bu farw | 1 Ebrill 2025 o niwmonia Los Angeles |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor ffilm, actor llais, actor teledu, actor llwyfan, actor |
| Adnabyddus am | Top Gun, Willow, The Doors, Heat, Kiss Kiss Bang Bang, Top Gun: Maverick, Batman Forever |
| Tad | Eugene Kilmer |
| Mam | Gladys Ekstadt |
| Priod | Joanne Whalley |
| Plant | Jack Kilmer, Mercedes Kilmer |
| Perthnasau | Nora Jones, Thomas Kilmer |
| Gwefan | https://valkilmer.com |
| llofnod | |
Actor o'r Unol Daleithiau oedd Val Kilmer (31 Rhagfyr 1959 – 1 Ebrill 2025).[1] Yn wreiddiol, actor llwyfan ydoedd ond daeth i enwogrwydd mewn ffilmiau yng nghanol y 1980au pan serennodd mewn ffilmiau comedi, gan gynnwys Top Secret! (1984), y ffilm gwlt Real Genius (1985), a'r ffilm hynod lwyddiannus Top Gun.
Yn ystod y 1990au, bu Kilmer mewn nifer o ffilmiau a fu'n lwyddiannau masnachol, gan gynnwys ei rôl fel Jim Morrison yn The Doors, Doc Holliday yn Tombstone (1993), Batman yn y ffilm Batman Forever (1995), Chris Shiherlis yn Heat a Simon Templar yn The Saint (1997). Ar ddechrau'r 2000au, ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau eraill, gan gynnwys The Salton Sea, Spartan, ac mewn rôlau cefnogol yn Kiss Kiss Bang Bang, Alexander ac fel llais KITT yn Knight Rider.
Bu farw o niwmonia yn Los Angeles, yn 65 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Val Kilmer: Top Gun, Batman and The Doors actor dies aged 65". BBC News (yn Saesneg). 2025-04-02. Cyrchwyd 2025-04-02.