Valéry Giscard d'Estaing
Valéry Giscard d'Estaing | |
![]()
| |
20fed Arlywydd Ffrainc
| |
Cyfnod yn y swydd 27 Mai 1974 – 21 Mai, 1981 | |
Prif Weinidog | Jacques Chirac Raymond Barre |
---|---|
Rhagflaenydd | Alain Poher |
Olynydd | François Mitterrand |
Geni | 2 Chwefror 1926 Koblenz, Yr Almaen |
Marw | 2 Rhagfyr 2020 (94 oed) Authon, Ffrainc |
Plaid wleidyddol | Gweriniaethwyr Annibynnol |
Priod | Anne-Aymone Sauvage de Brantes |
Gwleidydd Ffrengig oedd Valéry Giscard d'Estaing (2 Chwefror 1926 – 2 Rhagfyr 2020) a adwaenid fel rheol fel Giscard; gwasanaethodd fel arlywydd Ffrainc wedi Georges Pompidou, o 1974 hyd 1981. Yn wahanol i Pompidou, roedd Giscard yn ceisio cynorthwyo'r Llydaweg. Ers 2009, bu'n aelod o Gyngor Cyfansoddiadol Ffrainc.
Fe'i ganed yn Koblenz, yr Almaen, yn ystod meddiannaeth Ffrainc yn Rheinland, yn fab i'r gwas sifil Jean Edmond Lucien Giscard d'Estaing a'i wraig, Marthe Clémence Jacqueline Marie (May) Bardoux. Roedd ei fam yn un o ddisgynyddion Louis XV, brenin Ffrainc. Roedd ganddo dair chwaer ac un brawd.
Enillodd "Giscard" yr etholiad arlywyddol 1974 gyda 50.8% o'r bleidlais, yn erbyn François Mitterrand. Roedd e'n un o'r arlywyddion ieuengaf yn hanes Ffrainc.
Bu farw yn Authon, Ffrainc, yn 94 oed.
Rhagflaenydd: Alain Poher |
Arlywydd Ffrainc 27 Mai 1974 – 21 Mai 1981 |
Olynydd: François Mitterrand |
Rhagflaenydd: Alain Poher a Joan Martí Alanis |
Cyd-dywysog Andorra 27 Mai 1974 – 21 Mai 1981 gyda Joan Martí Alanis |
Olynydd: François Mitterrand a Joan Martí Alanis |