Vík í Mýrdal

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Y pentref Vík (IPA:ˈviːk); neu, o roi ei enw llawn, Vík í Mýrdal yw'r pentref mwyaf deheuol yng Ngwlad yr Iâ. Fe'i lleoliad ar hyd Ffordd 1, gylchffordd genedlaethol, (Þjóðvegur 1 neu Hringvegur yn Islandeg) tua 180 km (110 mi) o bellter o'r brifddinas, Reykjavík. Vík yw prif aneddiad bwrdeisdref Mýrdalshreppur.

Er gwaethaf ei maint bychan (poblogaeth o 291 yn Ionawr 2011) dyma'r ganolfan boblogaeth fwyaf o fewn dalgylch o rhyw 70 km (43 mi) ac mae'n fan aros bwysig, felly, fe'i cyfeirir ati ar arwyddion ffyrdd gryn bellter i ffwrdd. Mae'n ganolfan wasanaethau bwysig i'r stribed o dir arfordirol rhwng Skógar a rhan orllewinnol gwaelodion y rhewlif Mýrdalssandur.

Atyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r pentref yn boblogaidd gyda thwristiaid a thripiau daearegol.

Yn 1991, nododd y cylchgrawn Islands Magazine mai traeth Vik oedd un o'r traethau mwyaf prydferth yn y byd oherwydd ei tywyd basalt du. Mae'r clogwyni i'r gorllewin o'r traeth yn gartref i lawer o adar môr, yn fwyaf amlwg yw'r pâl sy'n nythu yn gloddio cafn bychan yn y pridd bas yn ystod y tymor nythu. Oddi ar yr arforfir gwelir stactiau basalt sy'n weddillion o glogwyni Reynisfjall, bu unwaith llawer helaethach ond sydd bellach yn cael ei erydu gan y môr. Nid oes tir rhwng Vik ac Antarctica a gall tonnau enfawr yr Iwerydd ymosod ar yr arfordir agored â'u holl grym.

Yn ôl llên gwerin, mae troliau (tylwyth teg, trolls) yn byw - ysbryd ydynt o bystogwyr a geisiodd lusgo eu cychod allan i'r môr ond iddynt foddi yn y môr. O gofio natur wyllt a pheryglus y môr, gwelir cofeb ar y traeth er cof am y morwyr a foddwyd dros y blynyddoedd.

Colgwyni Vik, Gwlad yr Iâ
Clogwyni Vik, Gwlad yr Iâ

Effeithiwyd y pentref gan ludo llosgfynydd enwog Eyjafjallajökull yn 2010.[1][2][3]

Vík í Mýrdal o'r môr

Perygl Katla[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorwedd Vík yn syth i'r de o rewlig Mýrdalsjökull, sydd ei hun ar ben llosgfynydd Katla. Dydy Katla heb ffrwydro ers 1918, gan fod hyn yn gyfnod hirach na'r arfer i fod yn segur, mae disgwyl iddi ffwydro'n fuan. Gallai ffrwydrad gan Katla doddi digon o iâ a fyddai'n sbarduno llifogydd enfawr gan foddi a difetha'r pentref gyfan. Credir mai eglwys Vik yw'r unig adeilad sydd digon uchel i fyny'r tir i osgoi effaith y fath lifogydd.[4] O ganlyniad i hyn, mae trigolion Vík yn cynnal ymarferion dril i ddianc i'r eglwys pan ceir arwydd o ffrwydriad.[angen ffynhonnell]

Mae gan y dref 1,400 ystafell westy ar gyfer gwyddonwyr a thwristiaid sydd hefyd yn cael ei briffio am beryglon Katla.[5]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflwynwyd statws man masnachu swyddogol i'r pentref gan lywodraeth Denmarc yn 1874 (rheolwyr Gwlad yr Iâ gan Ddenmarc nes hunanlywodraeth yn 1918).

Ym mis Awst 1964 a haf 1965 fe lansiodd asiantaeth gofod Ffrainc, y CNES ddau roced sain, teip Dragon 1 o esgynfa symudol. Cyrhaeddodd y rocedau uchder rhwng 420 km a 451 km yn y gofod.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Datblygiad y boblogaeth ers 1997[6]
Blwyddyn 1997 1998 1999 2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010
Poblogaeth 303 296 299 297 291 298 291 294 288 284 288 275 299 300

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

  • "Volcanic ash covers Icelandic town". BBC News. 2010-05-08. http://news.bbc.co.uk/2/hi/europe/8670049.stm.
  • "Iceland volcano threatens ash cloud sequel". CBS News. http://www.cbsnews.com/2100-202_162-20119947.html.
  • Iceland volcano erupts; hundreds evacuated. The Washington Times
  • "Threat of new, larger Icelandic eruption looms". yahoo.com (Yahoo Inc). Archifwyd o y gwreiddiol ar April 25, 2010. https://web.archive.org/web/20100425014954/http://news.yahoo.com/s/ap/eu_volcano_science. Adalwyd 2010-04-26.
  • "Tourists are flocking to volcano that’s due for a massive eruption". 2 September 2017. Adalwyd 3 September 2017.  Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  • (Saesneg) D'après l'institut islandais de statistiques Hagstofa Íslands