Uwchdechnoleg

Oddi ar Wicipedia
Uwchdechnoleg
Enghraifft o'r canlynoltype of technology Edit this on Wikidata
Mathtechnoleg Edit this on Wikidata
Y gwrthwyneblow technology Edit this on Wikidata

Technoleg ddatblygedig ddiweddar sydd ymhell ar y blaen i'w chystadleuwyr ar y farchnad yw uwchdechnoleg.[1] Mae'n ymwneud â defnyddio technegau, peiriannau, a defnyddiau i ddatblygu dyfeisiau a dulliau newydd sydd yn fwy effeithiol, cynhyrchiol, a thrawsffurfiol na'r hen bethau a ffyrdd traddodiadol. Mae uwchdechnoleg yn agwedd bwysig o nifer o wyddorau cymhwysol a diwydiannau modern, gan gynnwys electroneg, telegyfathrebu, technoleg gwybodaeth, biotechnoleg, nanotechnoleg, roboteg, deallusrwydd artiffisial, ynni adnewyddadwy, ac awyrofod.[2]

Meysydd[golygu | golygu cod]

Electroneg a thelegyfathrebu[golygu | golygu cod]

Dylunio, datblygu, a gweithgynhyrchu dyfeisiau electronig ar gyfer y farchnad yw un o brif feysydd uwchdechnoleg, gan gynnwys cyfrifiaduron, ffoniau clyfar, setiau teledu, a chyfarpar telegyfathrebu. Mae'n ymwneud â thechnolegau megis cylchedau cyfannol, microbrosesyddion, rhwydweithiau telegyfathrebu, a chyfathrebu di-wifr.

Technoleg gwybodaeth[golygu | golygu cod]

Mae technoleg gwybodaeth yn cwmpasu systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol, meddalwedd, a rheoli data, ac yn cynnwys rhaglennu cyfrifiadurol, datblygu meddalwedd, rheoli cronfeydd data, seiber-ddiogelwch, a chyfrifiaduro'r cwmwl. Mae ganddi rôl ganolog wrth alluogi'r oes ddigidol a chefnogi busnesau a sefydliadau eraill yn eu gweithgareddau a phrosesau.

Biotechnoleg[golygu | golygu cod]

Defnyddio organebau byw er mwyn creu cynnyrch neu brosesau newydd i bwrpasau penodol ydy biotechnoleg. Mae'n cynnwys peirianneg genetig, fferylleg, amaethyddiaeth, ac ymchwil biomeddygol. Mae biotechnoleg wedi cyfrannu at ddatblygiadau mewn meddygaeth, cynhyrchu bwyd, a chynaladwyedd amgylcheddol.

Nanotechnoleg[golygu | golygu cod]

Rheoli mater ar raddfa atomig a moleciwlaidd, fel rheol 100 nanomedr neu lai, a chynhyrchu dyfeisiau a defnyddiau sydd a'u maintoli yn gorwedd o fewn y mesur hwnnw yw nanotechnoleg. Defnyddir mewn electroneg, meddygaeth, storio ynni, a chael gwared â llygredd a difwynwyr o'r amgylchedd.

Roboteg a deallusrwydd artiffisial[golygu | golygu cod]

Dau faes sydd yn dibynnu'n bennaf ar uwchdechnoleg yw cynhyrchu robotau i berfformio tasgau'n awtomatig, a datblygu systemau gyda'r nod o ddynwared deallusrwydd dynol, megis datrys problemau, dysgu, a gwneud penderfyniadau.

Ynni adnewyddadwy[golygu | golygu cod]

Mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a phroblemau amgylcheddol eraill, ceir swyddogaeth hynod o bwysig gan uwchdechnoleg wrth ddatblygu technolegau ynni adnewyddadwy, megis ynni haul, ynni gwynt, ynni dŵr, ac ynni biomas. Mae defnyddiau materol newydd, systemau effeithlon o storio ynni, a thechnolegau'r grid clyfar yn cyfrannu at wella'r ffyrdd o gynhyrchu, dosbarthu, a threulio ynni.

Awyrofod ac awyrennu[golygu | golygu cod]

Mae'r diwydiant awyrofod yn dibynnu'n gryf ar uwchdechnoleg am ddylunio awyrennau, gweithgynhyrchu, systemau llywio, a fforio'r gofod. Ers yr 20g, bu cynnydd syfrdanol mewn awyrennu a theithio'r gofod, er enghraifft systemau gyriant, aerodynameg, a lloerennau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  uwchdechnoleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2023.
  2. Steenhuis, H.; Bruijn, E. J. De (Gorffennaf 2006). "High technology revisited: definition and position" (yn en). 2006 IEEE International Conference on Management of Innovation and Technology 2: 1080–1084. doi:10.1109/ICMIT.2006.262389. ISBN 1-4244-0147-X. https://ieeexplore.ieee.org/document/4037187.