Cylched gyfannol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cylchedau cyfannol 'Cof Darllen-yn-unig Dileadwy Rhaglennadwy' neu Erasable Programmable Read-Only Memory (EPROM) . Mae'r pecynnau yma yn cynnwys ffenestr dryloyw sy'n dangos y dei tu fewn. Mae'r ffenestr yn cael ei ddefnyddio i ddileu y cof, drwy belydru golau uwchfioled ar y sglodyn.
Cylched gyfannol o gof microsglodyn EPROM yn dangos y blociau cof, cylchedau ategol ac y gwifrau arian tenau sydd yn cysylltu y cylched cyfannol gyda coesau y pecyn.
Manylion synthetig y cylched cyfannol drwy bedair haen o gopr rhyng-gysylltu planol, i lawr at y polysilicon (pinc), y ffynhonnau (llwydaidd), ac is-haen (gwyrdd)

Mae cylched gyfannol neu cylched gyfannol monolithig (cyfeirir ato hefyd fel IC, sglodyn, neu microsglodyn) yn set o gylchedau electronig ar un darn bach gwastad (neu "sglodyn") o ddeunydd lled-ddargludol, silicon fel arfer. Mae'r cyfuniad o nifer fawr o dransistorau bach ar sglodyn bach yn golygu cylchedau sydd yn llawer llai o faint, yn rhatach ac yn gyflymach na'r rhai a adeiladwyd o gydrannau electronig ar wahân. Mae'r gallu i fasgynhyrchu IC yn ddibynadwy a'r dull adeiladu blociau o ddylunio cylched wedi caniatau mabwysiadiad cyflym o ICau safonol yn hytrach na chynlluniau yn ddefnyddio transistorau ar wahan. Defnyddir ICau erbyn hyn mewn bron pob offer electronig ac mae wedi chwyldroi byd electroneg. Mae cyfrifiaduron, ffonau symudol, a chyfarpar digidol cartref arall nawr yn rhan annatod o strwythur cymdeithas fodern, a gwnaed hyn yn bosibl drwy gost isel a maint bychan ICau.

Daeth cylchedau cyfannol yn ymarferol erbyn canol yr 20G gyda datblygiadau mewn gwneud dyfeisiau lled-ddargludyddion. Ers eu cynhyrchu gyntaf yn y 1960au, mae maint, cyflymder, a chymhwyster  sglodion wedi cynnyddu'n aruthrol, yn cael ei yrru gan datblygiadau technegol sy'n gallu gosod mwy a mwy o dransistorau ar sglodion o'r un maint - gall sglodyn fodern gynnwys sawl biliwn transistor mewn arwynebedd tua maint ewin dynol. Mae'r datblygiadau hyn, sy'n dilyn Cyfraith Moore yn fras, yn golygu fod sglodion cyfrifiadurol heddiw yn meddu ar filiynau o weithiau y capasiti a miloedd o weithiau cyflymder y sglodion cyfrifiadur o'r 1970au cynnar.

Mae gan ICau ddwy brif fantais drosl cylchedau arwahanol: cost a pherfformiad. Mae'r gost yn isel oherwydd fod y sglodyn, gyda eu holl gydrannau, yn cael eu hargraffu fel uned gan ffotolithograffi yn hytrach na chael eu hadeiladu un transistor ar y tro. Ar ben hynny, mae pecynnau IC yn defnyddio llawer llai o ddeunydd na chylchedau arwahanol. Mae'r perfformiad yn uchel oherwydd bod cydrannau'r IC yn gallu switsho'n gyflym ac yn defnyddio ychydig iawn o bŵer oherwydd eu maint bychan ac agosrwydd y cydrannau. Prif anfantais ICau yw'r gost uchel o'u dylunio nhw a chynhyrchu y masgiau-ffoto anghenrheidiol. Mae'r gost gychwynnol uchel yn golygu fod IC yn fwy ymarferol pan mae disgwyl cynhyrchu nifer fawr ohonynt.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]