Uniono por la Linguo Internaciona Ido
Gwedd
Uniono por la Linguo Internaciona Ido (ULI), Undeb yr Iaith Ryngwladol Ido (ULI) yw'r undeb swyddogol ar gyfer y mudiad dros yr iaith Ido. Gyda'i bencadlys yn Amsterdam, yn Yr Iseldiroedd, ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo'r iaith, trefnu cynadleddau blynyddol lle mae siaradwyr Ido yn cwrdd, a chyhoeddi'r cylchgrawn Progreso (cynnydd) a ddechreuwyd ym 1908 gan Louis Couturat, un o sefydlwyr y mudiad a fu farw ym 1914. Yn gyfoes (2008) mae cynrychiolwyr o 23 o wledydd yn aelodau swyddogol o'r undeb.
Cynhaliwyd cynhadledd 2008 yn Wuppertal, Yr Almaen, 22-26 Awst.