Idolinguo

Oddi ar Wicipedia

Datblygiad o'r iaith artiffisial ryngwladol Esperanto yw Ido neu Idolinguo. Uniono por la Linguo Internaciona Ido (ULI), Undeb yr Iaith Ryngwladol Ido (ULI) yw'r undeb swyddogol ar gyfer y mudiad dros ddatblygu’r iaith Ido. Gyda'i bencadlys yn Amsterdam, yn Yr Iseldiroedd, ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo'r iaith, trefnu cynadleddau blynyddol lle mae siaradwyr Ido yn cwrdd, a chyhoeddi'r cylchgrawn Progreso (=cynnydd) a ddechreuwyd ym 1908 gan Louis Couturat, un o sefydlwyr y mudiad a fu farw ym 1914. Yn gyfoes (2008) mae cynrychiolwyr o 23 o wledydd yn aelodau swyddogol o'r undeb.

Gwyddor Ido a’r ynganiad[golygu | golygu cod]

Defnyddir yr un 26 llythyren ag sydd yn yr wyddor Saesneg a’r wyddor Ffrangeg. Ni ddefnyddir unrhyw farciau diacritig (acenion).

Ynganu cytseiniaid[golygu | golygu cod]

Yngenir y cytseiniaid canlynol fel yn y Gymraeg: b, d, g, h, k, l, m, n, p, r, s, t, v, z.

c = fel ts yn y gair Cymraeg tsar; f = fel ff yn Gymraeg; j = fel yn Ffrangeg neu fel s yn y gair Saesneg pleasure; ch = fel yn Saesneg; qu = fel yn Saesneg; sh = fel yn Saesneg; w = fel w yn y gair Cymraeg wedi; x = fel cs yn y gair Cymraeg bocs hyd yn oed ar ddechrau gair;  y = fel i yn y gair Cymraeg iechyd. D.S. Ni defnyddir w na y fel llafariaid yn Ido.

Ynganu llafariaid[golygu | golygu cod]

Yngenir y llafariaid fel a ganlyn: a, e, i, o = fel yn Gymraeg; u = fel w yn y gair Cymraeg pwn.

Dylid nodi, mewn geiriau o ddwy syllaf neu fwy, fod i yn troi’n hanner cytsain, felly mae ia yn swnio fel ya, ie = fel ye, ii = fel yi, io = fel yo, iu = fel yu.

Dylid nodi hefyd, mewn geiriau o ddwy syllaf neu fwy, fod u yn troi’n hanner cytsain, felly mae ua yn swnio fel wa, ue = fel we, ui = fel wi, uo = fel wo, uu= fel wu.

Hyd llafariaid: Nid oes rheol pendant, felly anelir at ynganu llafariaid mewn modd rhywle rhwng ‘hir’ a ‘byr’.

Deuseiniaid[golygu | golygu cod]

Ceir y deuseiniaid canlynol yn Ido: au = fel aw yn Gymraeg, eu = fel ew yn Gymraeg.

Pwyslais: Fel yn Gymraeg pwysleisir geiriau ar y goben (sillaf olaf ond un) e.e. kandelo = cannwyll, ond mae geiriau sy’n gorffen â’r terfyniadau -ar, -ir, -or, sef y terfyniadau berfenwol, yn eithriad, gyda’r pwyslais yn disgyn ar y sillaf olaf ei hunan e.e. amar = caru, helpar = helpu, peskar = pysgota.

Geirfa[golygu | golygu cod]

Mae geirfa’r iaith Ido yn seiliedig ar ryw 10,000 o wreiddiau, gwreiddiau sy’n gyffredin i nifer o ieithoedd fel yn yr enghreifftiau canlynol: Ffrangeg 91%, Eidaleg 83%, Sbaeneg 79%, Saesneg 79%, Almaeneg 61%, Rwsieg 52%.

Geirfa ehangach.  Mae’r iaith yn defnyddio dros 60 o ôl-ddodiaid a rhag-ddodiaid i ehangu’r eirfa ac adeiladu geiriau mwy cymhleth. Dyma gwpl o enghreifftiau: ’des-‘ sy’n rhoi’r ystyr croes i air e.e. facila = hawdd, des-facila = anodd; ‘-ed’ sy’n cyfieithu’r terfyniad Cymraeg ‘-aid’ h.y. ‘llawn’ e.e. taso = cwpan, tasedo = cwpanaid, boteledo de vino = potelaid o win; ‘-ey’ sy’n dynodi ‘lle’ ar gyfer rhywbeth e.e. kavalo = ceffyl, kavaleyo = stabal.

Rhagenwau [golygu | golygu cod]

 me = fi    tu = ti   vu = chi (unigol)     ilu = ef (person)    elu = hi (person)    olu = yn cyfateb i’r gair ‘it’ yn Saesneg    lu = rhagenw trydydd person unigol di-genedl, h.y. ‘hi’ neu ‘fe’     ni = ni     vi = chi (lluosog)    li = nhw

Berfau [golygu | golygu cod]

Mae modd creu nifer o amserau eraill, ond yn sylfaenol defnyddir y terfyniadau canlynol: amser presennol -as, amser gorffennol -is, amser dyfodol -os, amser amodol -us. e.e.

Me havas tri libri = Mae tri llyfr gyda fiNi skribis letro a tu = Ysgrifennon ni lythyr atat tiNivos morge = Bydd hi’n bwrw eira yforyLa infanti helpus = Basai’r plant yn helpu.  

Negyddol.  Defnyddir y gair ‘ne’ i ffurfio’r negyddol e.e. Me ne esas richa = Dw i ddim yn gyfoethog.

Cwestiynau.  Defnyddir y gair ‘ka’ sy’n cyfateb â geiryn gofynnol ‘A’ Cymraeg e.e. Ka tu prizus glasedo de aquo ? = A hoffet ti wydraid o ddŵr ?

Gorchmynion.  Defnyddir y terfyniad ‘-ez’ e.e. Sidez hike ! = Eisteddwch yma ! ; Ne parolez ! = Peidiwch â siarad !

Y fannod [golygu | golygu cod]

Fel yn Gymraeg does dim bannod amhendant. Y fannod bendant yw ‘la’. e.e. kafeo = coffi, la kafeo = y coffi.

Enwau [golygu | golygu cod]

Mae pob enw unigol yn terfynu â’r llythyren -o   e.e. kato = cath (niwtral o ran cenedl), katino = cath fenyw, katulo = cath wryw, infanto = plentyn, tablo = bwrdd, domo = , arboro = coeden.  Mae pob enw lluosog yn terfynu â’r llythyren -i   e.e. kati = cathod, infanti = plant, tabli =   byrddau, domi = tai, arbori = coed.

Ansoddeiriau [golygu | golygu cod]

Mae siaradwyr Ido yn rhydd i osod yr ansoddair o flaen neu ar ôl yr enw, ond mae o flaen yn fwy cyffredin. Y terfyniad ar gyfer ansoddeiriau yw ‘-a’ e.e. granda domo = tŷ mawrgranda domi = tai mawrbruna hari = gwallt brownsalado fresha = salad ffresLa yuna familio habitas en mikra urbo an la bordo di la maro = Mae’r teulu ifanc yn byw mewn tref fach ar lan y môr.

Adferfau [golygu | golygu cod]

Y terfyniad ar gyfer adferfau yw ‘-e’. Gellir troi ansoddair yn adferf fel a ganlyn:  lenta = araflente = yn arafrapida = cyflymrapide = yn gyflym  e.e. Elu natis lente trans la rivero = Nofiodd hi yn araf dros yr afon.

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.