Undeb Cenedlaethol y Glowyr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Undeb y Glowyr)

Undeb llafur yn cynrychioli glöwyr yn y Deyrnas Unedig yw Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Saesneg: National Union of Mineworkers), a dalfyrrir yn aml i NUM.

Sefydlwyd yr undeb yn 1945, pan ail-drefnwyd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr (Miners' Federation of Great Britain, MFGB). Roedd yr MFGB wedi ei sefydlu yn 1888. Nid oedd yn un undeb canolog, ond yn hytrach yn gorff oedd yn cyd-drefnu gweithgareddau sefydliadau lleol. Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru (South Wales Miners' Federation), "y Ffed", yn 1898.

Cymerodd yr undeb ran mewn sawl anghydfod diwydiannol, yn cynnwys Streic Genedlaethol y Glowyr 1912 a Streic Fawr 1926. Dan lywyddiaeth Arthur Scargill, daeth i amlygrwydd yn ystod Streic y Glowyr (1984-5), oedd yn brotest yn erbyn cynlluniau'r Bwrdd Glo a'r llywodraeth i gau pyllau glo. Wedi blwyddyn o streic, gorfodwyd y glowyr i ddychwelyd i'r gwaith, a thros y blynyddoedd nesaf, caewyd nifer fawr o byllau glo. Oherwydd hyn, collodd yr undeb ei ddylanwad.

Llywyddion[golygu | golygu cod]

Is-lywyddion[golygu | golygu cod]

Ysgrifenyddion Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]