Undeb Cymru a'r Byd
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1948 |
Pencadlys | Cymru |
Sefydlwyd Undeb Cymru a'r Byd yn 1948 neu yn hytrach wrth ei enw gwreiddiol Undeb y Cymry ar Wasgar. Tarddodd y syniad o'r angen am gorff cenedlaethol yng Nghymru i hyrwyddo cadw cysylltiad rhwng Cymru a'r bechgyn a wasanaethai ar hyd a lled y byd, yn y lluoedd arfog. Bellach fe'i gwelir fel cyfle i gryfhau'r berthynas gyda'r diaspora Gymraeg. O'r dechrau roedd cysylltiad agos gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, a chafwyd y seremoni gyntaf ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948 sef croesawu'r Cymry o dramor, gartref yn seremoni y Cymry ar Wasgar.