Diaspora

Oddi ar Wicipedia
Diaspora
Enghraifft o'r canlynolmeta-ddosbarth o'r radd flaenaf Edit this on Wikidata
Mathmudo dynol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diaspora Groegaidd yn y 6ed ganrif CC
Cerfluniad Rufeinig yn dathlu curo'n filwrol, carthu ethnig ac yna alltudio'r Iddewon o Jiwdea yn 70 OC

Term o darddiad Groegeg yw diaspora (mae'n deillio o'r ferf Roegaidd διασπείρω, diaspeirō; yn llythrennol "gasgaraf", "gwasgaraf ar hyd"; διά (dia), "rhwng, trwy, ar draws" a'r ferf σπείρω (speirō) "hauaf", "gwasgaraf")[1]. Defnyddir y termau gwasgariad ac alltudiaeth hefyd yn y Gymraeg.Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni all enw fod yn rif. Defnyddiwch deitl disgrifiadol a gellid awgrymu diasbora fel sillafiad Cymreig sy'n driw i ynganiad y gair. Yr ystyr gwreiddiol yw "gwasgariad pobl yn y byd ar ôl cefnu ar y mannau tarddiad" neu "wasgariad mewn gwahanol rannau o'r byd o bobl sy'n cael eu gorfodi i gefnu ar eu tarddiad" a gan helaeth "gwasgariad o unigolion a gasglwyd gynt mewn grŵp".

Defnydd[golygu | golygu cod]

Mae diaspora yn boblogaeth sydd wedi'i gwasgaru ar draws rhanbarthau sydd ar wahân i'w darddiad daearyddol.[2] Yn hanesyddol, defnyddiwyd y gair yn gyntaf wrth gyfeirio at wasgariad Groegiaid yn y byd Hellenig, ac yn ddiweddarach Iddewon ar ôl alltudiaeth Babilonaidd.[3][4] Defnyddir y gair "diaspora" heddiw i gyfeirio at bobl sy'n uniaethu â lleoliad daearyddol penodol, ond sy'n byw yn rhywle arall ar hyn o bryd.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Emigrants Leave Ireland darlun o Wyddelog yn gadael am yr Unol Daleithiau wedi Newin Mawr Iwerddon yn yr 1840. Gwelwyd miloedd yn ymfudo i Gymru gan greu cymuned diaspora gref

Y diaspora par excellence yw un yr IddewonGwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni all enw fod yn rif. Defnyddiwch deitl disgrifiadol yn yr hen fyd (alltudion Iddewig), ar ôl yr alltudiadau olynol i Asyria (721 CC) a Babilon (586 CC, alltud Babilonaidd) ac yn bennaf oll yn dilyn diwedd endid gwleidyddol Iddewig ym Mhalesteina ar ôl goresgyniad milwrol y Rhufeiniaid a dinistriad ddwbl Teml Jerwsalem yn 70 a 135 OC . Daeth y thema o ddychwelyd Iddewon coll i Balestina yn un o'r rhai mwyaf cyffredin mewn llenyddiaeth apocalyptaidd a messianiaeth Iddewig. Y term am fyw yn y diaspora i'r Iddewon yw y Galut sef "yr alltudiaeth" a gelwyr ymfudo i wlad Israel yn Aliyah.

Mae alltudion hanesyddol eraill yn cynnwys:[golygu | golygu cod]

  • Y fasnach gaethweision Affricanaidd, a elwir weithiau hefyd yn ddiaspora du neu alltud Affricanaidd.
  • Alltud Armenia, h.y. ehediad y boblogaeth Armenia yn dilyn yr hil-laddiad a gyflawnwyd gan yr Otomaniaid ar ddechrau'r 20g.
  • Ecsodus Julian Dalmatian, y cyfeirir ato weithiau fel y diaspora Julian-Rijeka-Dalmatian, h.y. alltudio gorfodol y mwyafrif o ddinasyddion ethnig ac Eidaleg eu hiaith o Istria , Kvarner a Dalmatia .
  • Y diaspora tibetaidd, gan gyfeirio at boblogaethau Tibet a ddewisodd, yn dilyn gormes Tsieina ym 1959, loches yn India lle cafodd y Dalai Lama loches wleidyddol.

Alltud a mudo[golygu | golygu cod]

Mae'r term diaspora wedi'i gymryd yn ddiweddar i ddynodi "gwasgariad aelodau cymuned mewn gwledydd lle mae mwyafrif y trigolion yn dilyn ffydd wahanol". Yng nghymdeithaseg mudo, fe'i defnyddir i nodi'r berthynas (sefydliadol fwy neu lai) rhwng aelodau o gymuned ymfudol mewn trydedd wlad, gyda'r nod o gyd-gefnogaeth a datblygiad y wlad darddiad trwy anfon taliadau. Fodd bynnag, mae ysgolheigion eraill yn anghytuno â'r defnydd o'r term.

Diaspora cyfoes[golygu | golygu cod]

Yn ôl adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn 2019, diaspora India yw alltud mwyaf y byd, gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn, ac yna'r alltud Mecsicanaidd, gyda phoblogaeth o 11.8 miliwn, a'r alltud Tsieineaidd, gyda phoblogaeth o 10.7 miliwn[5]

Diasbora Cymreig dramor[golygu | golygu cod]

Plât llyfr o Goleg Bryn Mawr, Pennsylvania yn arwydd o ddiaspora Gymreig yn yr Unol Daleithiau

Cafwyd disapora Gymreig yn Lloegr, ac yna gogledd America a'r Unol Daleithiau gan gynnwys ymdrech ar greu gwladfeydd Cymreig yn yr hyn ddaeth yn dalaith Pennsylvania a Phatagonia.[6]

Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

Bu ymfudo o Gymru a chreu sawl diaspora Gymreig yng Ngogledd America. Yn ei plith roedd Gwladfa Gymreig, Cambria, a sefydlwyd gan Morgan John Rhys yng ngorllewin Pennsylvania ar ddiwedd 18g. Yn hanesyddol yn yr 19g, cafwyd cymunedau diaspora Cymreig yn nhalaith Ohio a'r gwaith dur yno. Rhwng y blynyddoedd 1860 a 1920 ymsefydlodd tua 80,000 o fewnfudwyr Cymreig yn yr Unol Daleithiau.[7] Yn hanesyddol roedd y Cymry alltud yn UDA wedi'u canoli o amgylch taleithiau canol yr Iwerydd, New England, Ohio, Georgia ac Alabama. Gyda Pennsylvania fel y ganolfan fwyaf, lle mae nifer o enwau lleoedd fel Bala Cynwyd, Berwyn ac Uwchlan yn dangos tarddiad eu sylfaenwyr.[8]

Y Wladfa[golygu | golygu cod]

Cymry yn y Wladfa, Patagonia, c1900

O bosib y diaspora Gymreig enwocaf yw ymgais sefydlu'r Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia yn 1865. Mae trafodaethau ar natur yr alltudiaeth yn un sy'n dal i beri trafodaeth a diddordeb fawr yng Nghymru.[9]

Ymgysylltu gyda'r Diaspora Cymreig[golygu | golygu cod]

Ceir ymgeisiau o bryd i'w gilydd i gysylltu Cymru gyda'i diaspora. Cynhelir seremoni y Cymry ar Wasgar - a elwir bellach yn Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Yn y seremoni hon, groesewir Cymry sydd yn byw dramor ac sydd wedi dychwelyd i'r Eisteddfod, i ymgynnull ar brif lwyfan yr Eisteddfod. Cydlynir gan Undeb Cymru a'r Byd.

Cafwyd galwadau ar i Lywodraeth Cymru estyn llaw a gwneud gwell defnydd o'r diaspora Gymreig fel ffordd o godi proffil Cymru yn fyd-eang er lles masnach, busnes a diwylliant a thwristiaeth.[10] Cyhoeddwyd dogfen weithredu gan Lywodraeth Cymru ar y pwnc yn 2020.[11] Bu i Blaid Cymru hefyd alw ar y Llywodraeth Cymru i "ymgysylltu â Chymry ar Wasgar".[12]

Diaspora tramor yng Ngymru[golygu | golygu cod]

Mae Cymru yn gartref i sawl gymuned diaspora.

  • Saeson - anodd byddai cydnabod y Saeson fel cymuned diaspora gan bod ei hiaith a diwylliant yn un fywafrifol yng Nghymru a ni ystyriwyd y Saeson eu hunain fel cymuned diasporaidd yn y wlad.
  • Gwyddelod - cafwyd mewnfudiad fawr o'r Iwerddon yn dilyn y Newin Mawr yn yr 1840 ac yn sgil hynny sefydlwyd sawl cymuned diaspora Wyddelig hunanymwybodol yng Nghymru, yn aml wedi eu cryfhau gan eu ymlyniad i'r Eglwys Gatholig mewn gwlad oedd yn Brotestanaidd. Bu Cwarter Gwyddelig (Irish Quarter) yng Nghaerdydd yn yr 19g.[13]
  • Somaliaid - cafwyd cymuned Somali yng Nghaerdydd ers 19g. Dyma un o gymunedau tramor hunan-ymwybodol hynaf Cymru a Phrydain. Daethant yn wreiddiol wedi agor Camlas Suez yn 1869 ar ddiwedd 19g i weithio fel morwyr. Daethant yma fel dynion yn chwilio am waith ac nifer fel ffoaduriaid na gweision, ond i wneud arian i brynu da byw nôl yn Somalia.[14] Yn ystod y 1980au cyrhaeddodd ton arall o fewnfudwyr o Somalia, ar ffo rhag y rhyfel cartref ym Mhenrhyn Somalia. Amcangyfrifir bod dros 8,000 o Somaliaid yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe a'r ardaloedd cyfagos ar hyn o bryd. Dyma'r gymuned ethnig leiafrifol fwyaf yng Nghymru felly.[15]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. διασπορά. Liddell, Henry George; Scott, Robert; A Greek–English Lexicon at the Perseus Project
  2. "Diaspora". Merriam Webster. Cyrchwyd 22 February 2011.
  3. "diaspora | social science | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-29.
  4. "Diaspora". The Princeton Encyclopedia of Self-Determination (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-29.
  5. With $78 billion, India still highest overseas remittance receiver, The Economic Times, 28 November 2019.
  6. Jones, Bill (24 Awst 2016). "Cymru, Patagonia ac Ymfudo". Sianel Youtube Prifysgol Caerdydd.
  7. "Wales in America : Scranton and the Welsh, 1860-1920". Gwefan Hive. Cyrchwyd 22 Hydref 2022.
  8. "Wales Away – where is the North American diaspora, who are they and what are they looking for?". Global Welsh. 28 Mehefin 2021.
  9. "Ailddehongli'r diaspora Cymreig ym Mhatagonia". Prifysgol Caerdydd. 17 Rhagfyr 2021.
  10. "Galw am strategaeth i greu cysylltiadau â'r diaspora". British Council. 21 Chwefror 2017.
  11. "Diaspora Engagement 2020-2025" (PDF). Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 22 Hydref 2022.
  12. "Ymgysylltu â Chymry ar Wasgar". Plaid Cymru. Cyrchwyd 22 Hydref 2022.
  13. "Irish immigration". BBC Wales History. 15 Awst 2008.
  14. "Somaliaid Butetown". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 22 Hydref 2022.
  15. "Somalieg". Casgliad y Werin. Cyrchwyd 22 Hydref 2022.