Ullswater
| Math | ribbon lake |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Westmorland a Furness |
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd |
| Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 8.9 km² |
| Uwch y môr | 144 metr |
| Cyfesurynnau | 54.5719°N 2.9005°W |
| Cod OS | NY42532043 |
| Hyd | 11.8 cilometr |
| Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
| Cadwyn fynydd | Ardal y Llynnoedd, Lloegr |
![]() | |
| Perchnogaeth | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Llyn ail fwyaf yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Ullswater, a leolir ger pentrefi Glenridding a Pooley Bridge. Mae ganddo hyd o 9 milltir (14.5 km), lled o 0.75 milltir (1,200 m) a dyfnder o tua 60 metr (197 troedfedd) yn ei ran ddyfnaf. Mae'r llyn yn boblogaidd iawn gan dwristiaid a gellir dringo sawl mynydd o Glenridding a Pooley Bridge, ar lan y llyn, yn cynnwys Helvellyn ac Arthur's Pike.
Mae'r enw Ullswater o darddiad Norseg ond mae union ystyr Ull yn ansicr.
Ger Pooley Bridge ar lan ddwyreiniol y llyn ceir tŷ Eusemere, a fu'n gartref yr ymgyrchydd yn erbyn caethwasanaeth Thomas Clarkson (1760–1846). Ymwelai'r bardd William Wordsworth a'i chwaer Dorothy â'u cyfaill ar sawl achlysur. Ar ôl ymweliad yn Ebrill 1802, ysbrydolwyd Wordsworth i sgwennu un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, "Daffodils", ar ôl gweld cennin pedr gwyllt yn tyfu ar lan Ullswater ar ei ffordd yn ôl i Grasmere.
