Ucheldiroedd Guiana
Gwedd
Math | highland |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Normandia, Gaiana |
Gwlad | Feneswela, Brasil, Swrinam, Gaiana, Ffrainc, Colombia |
Uwch y môr | 348 metr |
Cyfesurynnau | 5.1433°N 60.7625°W, 4°N 60°W |
Rhanbarth daearyddol a nodwedd ddaearegol yn Ne America yw Ucheldiroedd Guiana neu Tarian Guiana (Sbaeneg: Guayana). Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y cyfandir, ar lan y Caribî deheuol.
Enw arall am y rhanbarth yw 'Guiana' neu 'Y Guianas', am ei fod yn cynnwys tair gwlad o'r enw Guiana, sef Gaiana ('Gaiana Brydeinig' cyn annibyniaeth), Guiana Ffrengig a Swrinam ('Guiana Iseldiraidd' cyn annibyniaeth). Mae'n cynnwys hefyd ran o ogledd Brasil ('Gaiana Bortiwgalaidd' cynt) darnau o Feneswela a Colombia.
Mae gan yr ucheldiroedd ecoleg a daeareg unigryw. Mae'r darian yn dalp anferth o graig gyn-Gambriaidd a ffurfwyd tua 1.7 bilwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cynnwys Mynydd Roraima, testun sawl chwedl am "Fyd Coll", a Rhaeadrau Angel.
Gwledydd
[golygu | golygu cod]Gwlad, efo baner |
Arwynebedd (km²) |
Poblogaeth (2005) |
Dwysedd poblogaeth (per km²) |
Prifddinas |
---|---|---|---|---|
Gaiana | 214,970 | 765,283 | 3.6 | Georgetown |
Guiana Ffrengig | 91,000 | 195,506 | 2.1 | Cayenne |
Swrinam | 163,270 | 438,144 | 2.7 | Paramaribo |