Neidio i'r cynnwys

Uchel Ddugiaeth Toscana

Oddi ar Wicipedia
Uwch ddugiaeth Tuscany
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasFflorens Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,096,641 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 27 Awst 1569 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDugiaeth Modena a Reggio Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43°N 11°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganCosimo I de' Medici, Grand Duke of Tuscany Edit this on Wikidata
ArianTuscan pound, Tuscan florin Edit this on Wikidata

Gwladwriaeth yng nghanolbarth yr Eidal oedd Uchel Ddugiaeth Toscana (Eidaleg: Granducato di Toscana, Lladin: Magnus Ducatus Etruriae) a fodolai o 1569 i 1860, ac eithrio'r cyfnod 1801–15 yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Roedd ei thiriogaeth yn cyfateb i raddau helaeth â rhanbarth Toscana heddiw. Fflorens oedd prifddinas yr uchel ddugiaeth trwy gydol ei hoes.[1]

Rhagflaenydd yr uchel ddugiaeth oedd Dugiaeth Fflorens, a ehangodd ei thiriogaeth dan arweiniad y Dug Cosimo I de' Medici.[2] Dyrchafwyd Cosimo yn Uchel Ddug Toscana gan y Pab Pïws V ym 1569, a byddai teulu'r Medici yn teyrnasu ar Toscana nes dechrau'r 18g.

Yr olaf o frenhinllin y Medici oedd Gian Gastone, a fu farw heb etifedd ym 1737. Yn ôl Cytundeb Fienna (1738), bu'n rhaid i Ffransis Steffan o Dŷ Hapsbwrg-Lorraine ildio Dugiaeth Lorraine i Stanisław Leszczyński, wedi i'r hwnnw golli ei goron yn Rhyfel Olyniaeth Gwlad Pwyl (1733−35). Derbyniodd Toscana yn iawndal, ac felly olynwyd Gian Gastone gan yr Uchel Ddug Ffransis Steffan, neu Francesco Stefano yn Eidaleg. Trwy reolaeth Ffransis, a ddaeth hefyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ym 1745, daeth Toscana yn rhan o'r Ymerodraeth Hapsbwrgaidd.

Yn sgil buddugoliaeth Napoleon Bonaparte yn erbyn y Glymblaid yn ystod Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc, daeth gogledd a chanolbarth yr Eidal dan dra-arglwyddiaeth y Ffrancod. O ganlyniad i Gytundeb Aranjuez (1801), a arwyddwyd gan Ffrainc a Sbaen, diddymwyd Uchel Ddugiaeth Toscana a sefydlwyd Teyrnas Etruria, un o wladwriaethau dibynnol Ffrainc, yn ei lle.[3] Diddymwyd yr honno yn ei thro ym 1807, a daeth Toscana yn rhan o Ymerodraeth Ffrainc. Wedi cwymp Napoleon, adferwyd Uchel Ddugiaeth Toscana gan Gyngres Fienna ym 1815, gyda Thŷ Hapsbwrg-Lorraine unwaith eto yn teyrnasu.

Yn haf 1859, wedi Ail Ryfel Annibyniaeth yr Eidal, meddianwyd y rhan fwyaf o diriogaeth yr uchel ddugiaeth gan fyddin Vittorio Emanuele II, Brenin Sardinia, a diorseddwyd yr Hapsbwrgiaid yn Toscana. Yn Rhagfyr, unodd â dugiaethau Modena a Reggio a Parma a Piacenza i ffurfio Taleithiau Unedig Canolbarth yr Eidal. Meddianwyd yr undeb hwnnw gan Sardinia ym Mawrth 1860, a chynhaliwyd refferendwm i gyfeddiannu'r diriogaeth yn ffurfiol i Deyrnas yr Eidal fel rhan o'r Risorgimento.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Strathern, Paul (2003). The Medici: Godfathers of the Renaissance. Llundain: Vintage. ISBN 978-0-09-952297-3. tt. 315–321 (Saesneg)
  2. "Cosimo I | duke of Florence and Tuscany [1519–1574]". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Chwefror 2021.
  3. H. A. L. Fisher, "The French Dependencies and Switzerland", in A. Ward et al. (eds.), Cambridge Modern History, IX: Napoleon (Cambridge, 1934), p. 399.