Tutsi

Oddi ar Wicipedia

Grŵp ethnig Affricanaidd yn byw yn Bwrwndi, Rwanda a rhannau o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo yw'r Tutsi (hefyd Watutsi a Batutsi).

Dywedir fod y Tutsi yn wreiddiol o Ddwyrain Affrica, efallai Ethiopia, a'u bod wedi ymfudo i Rwanda a Bwrwndi yn yr 11g. Yn y 16g, ffurfiwyd teyrnasoedd Tutsi yn yr ardaloedd hyn. Yn draddodiadol, roedd y Tutsi yn ffermwyr gwartheg ac yn ffurfio dosbarth o uchelwyr yn Rwanda a Bwrwndi, tra'r oedd yr Hutu yn tyfu cnydau, a dan reolaeth y Tutsi. Gwaherddid priodasau rhwng Hutu a Tutsi.

Yn yr 20g, bu llawer o derfysg rhwng y Tutsi a'r Hutu. Yn 1994, lladdwyd rhwng 500,000 a miliwn o bobl gan ddau filisia Hutu yn Hil-laddiad Rwanda, a ddechreuodd ar 6 Ebrill pan saethwyd i lawr awyren yn cynnwys Arlywydd Rwanda, Juvénal Habyarimana. Lladdwyd Habyarimana, oedd yn aelod o'r Hutu. Yn y tri mis nesaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi, a hefyd rhai Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia.

Canran Hutu, Tutsi a Twa yn Rwanda a Bwrwndi[golygu | golygu cod]

Tutsi Hutu Twa
Rwanda 9% 90% 1%
Bwrwndi 16% 83% 1%