Tungri

Oddi ar Wicipedia

Llwyth yng ngogledd-ddwyrain Gâl oedd y Tungri. Nid oes sicrwydd a oeddynt yn llwyth Belgaidd neu'n llwyth Almaenig. Dywed Tacitus yn ei lyfr Germania mai Germani oedd enw gwreiddiol y Tungri; a bod y Galiaid wedi dechrau defnyddio'r enw yma am yr Almaenwyr i gyd.

Yn ôl Ptolemi, roeddynt yn byw yn rhan ogleddol yr Arduenna Silva (Fforest yr Ardennes), ar ran isaf dyffryn Afon Meuse). Roedd llwythau Almaenig i'r gogledd a'r dwyrain iddynt. ond llwythau Belgaidd i'r gorllewin ac i'r de; y Nervii yn y gorllewin a'r Remi a'r Treveri yn y de. Eu prifddinas oedd Atuatuca, Tongeren yn nhalaith Limburg, Gwlad Belg heddiw.