Nervii
Gwedd
| Enghraifft o: | grwp ethnig hanesyddol |
|---|---|
| Math | llwyth, Y Galiaid |
| Rhan o | Belgae, Y Celtiaid |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01mtqy |

Llwyth Belgaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl oedd y Nervii. Roedd eu tiriogaethau i'r dwyrain o Afon Scheldt. Yn ôl Iŵl Cesar, hysbysodd y Remi ef mai'r Nervii oedd y pellaf o lwythau y Belgii. Yn ôl Strabo, fodd bynnag, llwyth o darddiad Amlaenig oeddynt. Eu prifddinas oedd Bagacum (Bavay heddiw).
Ystyriai Iŵl Cesar mai hwy oedd y mwyaf rhyfelgar o lwythau Gâl. Roeddynt yn rhan o'r cynghrair Belgaidd a'i gwrthwynebodd. Wedi i'r cynghrair yma ddod i ben, parhaodd y Nervii i ymladd dan eu pennaeth Boduognatus, a chyda'r Atrebates a'r Viromandui, daethant yn agos ar orchfygu Cesar ym Mrwydr Afon Sabis yn 57 CC, er iddynt ddioddef colledion trwm yn y diwedd. Ymunodd y Nervii a gwrthryfel Ambiorix a'r Eburones yn 53 CC.
