Trwy'r Ddinas Hon

Oddi ar Wicipedia
Trwy'r Ddinas Hon
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Fel rhan o ddigwyddiad Trwy’r Ddinas Hon, fe berfformiwyd tair drama Gymraeg un ar ôl y llall yn Theatr Sherman Cymru, Caerdydd ym mis Mehefin 2013.[1]

Y dramâu[golygu | golygu cod]

Llwch O'r Pileri[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd Llwch O'r Pileri gan Dyfed Edwards.

Mae'r ddrama wedi'i gosod yn 1958 mewn byd gwahanol iawn, ble enillodd yr Almaen yr Ail Ryfel Byd ac mae Cymru wedi newydd ennill Cwpan y Byd. Mae’r blaid Natsïaidd wedi bod yn helpu diwylliannau lleiafrifol i ffynnu ac yn eu gorfodi i gefnogi'r achos Natsïaidd.

Gyda Adolf Hitler ar fin ymweld i ddathlu’r fuddugoliaeth pêl-droed, mae'r ddrama’n canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd mewn ysgol Gymraeg lle mae un o'r rhieni wedi dianc i America a'r tensiynau a grëwyd gyda phobl yn amau’i gilydd ac yn rhoi'r bai ar eraill am fodolaeth y gyfundrefn.

Myfanwy Yn Y Moorlands[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd Myfanwy Yn Y Moorlands gan Sharon Morgan.

Lleolir y ddrama mewn byd breuddwydiol lle mae'r ffiniau rhwng dychymyg a realiti yn aneglur, gan ganolbwyntio ar hen wraig sydd ar fin cael chwalfa nerfol. Wrth ailymweld â Chaerdydd, prin y mae hi’n nabod y lle yr oedd hi’n ei hadnabod yn y 1970au.

Traed Bach Concrit[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd Traed Bach Concrit gan Marged Parry.

Mae'r ddrama wedi'i gosod mewn y y dyfodol lle mae Caerdydd wedi'i dinistrio ac mae yn y broses o gael ei hail-greu. Mae'r cymeriadau yn ceisio lloches yn hafan ddiogel canolfan siopa Dewi Sant 2, lle mae 10 o bobl o wahanol gefndiroedd a grwpiau ethnig yn cael eu hanfon mewn proses amheus o lanhau ethnig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Three new plays inspired by Cardiff's dark corners to be staged at Sherman Polly march, Blog BBC Wales, 17 Mehefin 2013 (Saesneg)
Eginyn erthygl sydd uchod am y theatr yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.