Tretinoin
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | asid carbocsylig, retinoic acid |
Màs | 300.209 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₀h₂₈o₂ |
Enw WHO | Tretinoin |
Clefydau i'w trin | Acne, clefyd y croen, dermatosis gwynebol, lewcemia promyelocytig acíwt, liwcemia myeloid aciwt, acne |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia x, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Yn cynnwys | carbon, ocsigen, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae tretinoin, sydd hefyd yn cael ei alw’n asid retinoig pob trans (ATRA), yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin acne a lewcemia promyelocytig acíwt.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₀H₂₈O₂. Mae tretinoin yn gynhwysyn actif yn Retin-A, Renova, Atralin, Tretin X, Refissa ac Avita.
Defnydd meddygol
[golygu | golygu cod]Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau cyffredin, pan fo'r cyffur yn cael ei weini trwy'r genau, yn cynnwys diffyg anadl, cur pen, fferdod, iselder, sychder y croen, cosi, colli gwallt, chwydu, poen yn y cyhyrau, a newidiadau golwg. Mae sgil effeithiau difrifol eraill yn cynnwys nifer uchel o gelloedd gwaed gwyn a chlotiau gwaed. O'i ddefnyddio fel hufen mae sgil effeithiau yn cynnwys cochni ar y croen, pilio a sensitifrwydd i'r haul. Mae defnydd yn ystod beichiogrwydd yn niweidio'r babi yn y groth[2].
Hanes
[golygu | golygu cod]Rhoddwyd Patent i tretinoin ym 1957 a'i gymeradwyo ar gyfer defnydd meddygol ym 1962. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae tretinoin ar gael fel meddyginiaeth generig. Yn y Deyrnas Unedig, mae'r hufen ynghyd ag erythromycin yn costio'r GIG tua £ 7.05 fesul 25ml tra bo'r tabledi yn costio £ 1.61 am 10 mg.
Enwau
[golygu | golygu cod]Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Tretinoin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pubchem. "Tretinoin". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Unknown parameter
|adalwyd=
ignored (help) - ↑ "Tretinoin". The American Society of Health-System Pharmacists. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |