Trabzon

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Trebizond)
Jump to navigation Jump to search
Trabzon
Panoromik Trabzon.jpg
Math dinas, dinas fawr, bwrdeistref fetropolitan Twrci Edit this on Wikidata
Poblogaeth 807,903 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Zanjan, Rasht, Amasya, Dortmund, Batumi, Sochi Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tyrceg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Eastern Karadeniz Edit this on Wikidata
Sir Trabzon Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Twrci Twrci
Arwynebedd 4,685 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 0 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Y Môr Du Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 41°N 39.73°E Edit this on Wikidata
Cod post 61000 Edit this on Wikidata
Golygfa dros Trabzon.
Canol dinas Trabzon.

Dinas hynafol ar arfordir y Môr Du yng ngogledd-ddwyrain Twrci yw Trabzon (hen enw: Trebizond, o'r ffurf wreiddiol Τραπεζούντα (Trapezounda), yn tarddu o 'τράπεζα', sef 'banc' mewn Groeg).

Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn brifddinas talaith Trabzon.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan Roegwyr o Filetus yn y 6ed ganrif CC. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol Trapezos (y gair Groeg am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod Bysantaidd. O'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas Ymerodraeth Trebizond a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cofnodir i'r Pla Du gyrraedd y ddinas yn y flwyddyn 1347, ar ei ffordd i Ewrop. Cipiwyd Trebizond gan Mehmet y Cwncwerwr yn 1461.

Ar ymyl y ddinas mae hen eglwys Fyzantaidd Santa Sophia yn sefyll mewn lecyn prydferth.

Sefydlwyd prifysgol yno yn 1980.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Amgueddfa Trabzon
  • Atatürk Köşkü
  • Castell Trabzon
  • Mosg Fatih
  • Mosg Yeni Cuma
  • Parc Boztepe

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag Turkey template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.