Trawsieithu

Oddi ar Wicipedia

Trawsieithu ydy'r proses yn y byd addysg o ddefnyddio mwy nag un iaith o fewn gwers ddosbarth.

Mae’r term hefyd yn ddisgrifio sut mae pobl ddwyieithog yn defnyddio eu gallu ieithyddol i wneud synnwyr ac ymateb i’r byd o'u cwmpas.[1][2]

Mae'n trawsieithu’n seiliedig ar syniad François Grosjean nad yw pobl ddwyieithog yn ddau berson uniaith mewn un. [3]

Bathwyd y term “trawsieithu” yn yr 1980au gan Cen Williams, Prifysgol Bangor (Saesneg: Translanguaging) i ddisgrifio’r arfer o ddefnyddio dwy iaith yn yr un wers, yn wahanol i lawer o ddulliau blaenorol o addysg ddwyieithog oedd yn ceisio gwahanu ieithoedd fesul dosbarth, amser, neu ddiwrnod.

Daeth trawsieithu fel ffocws astudiaeth i'r amlwg gyntaf ym Mhrifysgol Bangor yn yr 1980au. Roedd Williams a'i gydweithwyr yn ymchwilio i strategaethau o ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn yr un wers.

Ceir cyfeirlyfr ar drawsieithu ar wefan Llywodraeth Cymru, Trawsieithu yn y dosbarth: cyfeirlyfr cyflym i addysgwyr.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Newid cod - defnyddio dwy iaith gyda'i gilydd yn yr un sgwrs

Diglosia - newid o'r naill iaith i'r llall yn ôl y sefyllfa

Cywair Iaith - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyn Lewis, Bryn Jones & Colin Baker (2012) Translanguaging: origins and development from school to street and beyond, Educational Research and Evaluation, 18:7, 641-654, DOI: 10.1080/13803611.2012.718488
  2. Li Wei, Translanguaging as a Practical Theory of Language, Applied Linguistics, Rhif 39, Cyfrol 1, Chwefror 2018, Tud: 9–30, https://doi.org/10.1093/applin/amx039
  3. https://en.wikipedia.org/wiki/Fran%C3%A7ois_Grosjean
  4. "Trawsieithu yn y dosbarth: cyfeirlyfr cyflym i addysgwyr". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 1 Ebrill 2023.