Gwlad drawsgyfandirol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Trawsgyfandirol)

Mae gwlad drawsgyfandirol yn wlad sydd â'i thiriogaeth yn gorwedd ar ddau gyfandir. Yr enghraifft amlycaf yw Twrci, sydd yn wlad Asiaidd yn bennaf ond gyda thir yn Ewrop dros y Bosphorus. Enghraifft arall yw'r Aifft, sy'n gorwedd yn Affrica ond yn cynnwys y Sinai, sy'n rhan o Orllewin Asia.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.