Trac
Enghraifft o'r canlynol | mudiad diwylliannol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1997 |
Gwefan | http://trac-cymru.org/en/ |
Mudiad Datblygu Gwerin Cymru yw trac; mae’n gweithio i hyrwyddo ac i ddatblygu traddodiadau cerdd a dawns Cymru yng Nghymru a thu hwnt, ac yn eirioli ar ran y Traddodiad gyda chyrff cyhoeddus a mudiadau eraill.
Mae ffurfiau cerdd, canu, cerdd dant, dawns a chwedleua Cymru yn rhan annatod o’n diwylliant, ac yn draddodiadau nodweddiadol sy’n sylfaen i hunaniaeth ein gwlad. Mae gwerthoedd cynhenid ein dulliau traddodiadol o fynegi ein hunain yn ein clymu at ein gilydd; yr her at y dyfodol yw i barhau i adnewyddu ac ailfywiogi’r ffurfiau hyn ar fynegiant, a chyffroi ac ysbrydoli y cenedlaethau iau, tra’n parchu crefft cynheiliaid ein traddodiad.
Er mwyn gwneud hyn mae trac yn datblygu sîn cerdd a dawns Cymru drwy ennyn diddordeb, meithrin talent a chyflwyno’r goreuon o gerddorion gwerin Cymru ar draws y byd. Byddwch yn dod o hyd i trac yn gweithio mewn ysgolion, mewn lleoliadau cymunedol, ar gaeau Gwyliau ac mewn digwyddiadau arddangos ryngwladol, yn helpu sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn dal i gyfoethogi bywydau, ni waeth beth yw oedran, cefndir, hil neu iaith y bobl dan sylw.
Mae trac yn Elusen Gofrestredig; mae’r tîm o weithredwyr yn derbyn cymorth gan fwrdd o ymddiriedolwyr ymroddedig, sy’n frwd dros ddiwylliant gwerin ac yn arbenigwyr yn eu meysydd priodol eu hunain.
Sefydlwyd Trac (Traddodiadau Cerdd Cymru) ym 1997[1], ac mae'n fudiad sydd yn hyrwyddo traddodiadau gwerin Cymru. Maent yn cydweithio efo cymdeithasau gwerinol eraill, megis Clera a Chymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru, ag yn gyfrifol am bresenoldeb y Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Arbrawf Mawr, cyfres o weithai cerddorol, a digwyddiadauau eraill, yng Nghymru, Llundain[1] ac yr Unol Daleithiau[2]
Avanc
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Avanc, sef ensemble canu gwerin Cymru i bobl ifainc o dan oruchwyliaeth Trac yn yr 2010au hwyr. Mae Avanc yn cynnwys cerddorion oedd wedi cael blas ar sesiynau Gwerin Gwallgo oedd ar gael i bobl o dan 18 oed, ond am barhau. Maent wedi perfformio ar draws Cymru gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a thramor yng Nghŵyl Pan-Geltaidd yn An Oriant yn Llydaw.[3]