Trôl

Oddi ar Wicipedia
Arwydd "peidiwch â bwydo'r troliau": ar nifer o wefannau, caiff defnyddwyr eu hargymell i anwybyddu troliau yn hytrach na rhoi unrhyw fath o sylw iddynt.

Defnyddiwr rhyngrwyd yw trôl[1] (lluosog: troliau) sydd yn postio negeseuon enynnol, dieithr, neu amherthnasol mewn cymuned ar-lein, megis fforwm, ystafell sgwrsio, neu flog, gan obeithio pryfocio ymateb emosiynol gan ddarllenwyr[2] neu i aflonyddu trafodaeth arferol y gymuned.[3] Mae'r diffiniad yn oddrychol, a defnyddir yn aml, yn enwedig gan y cyfryngau traddodiadol, i ddisgrifio gweithredoedd sy'n bodloni diffiniad aflonyddwch, megis difwyno tudalennau gwe sy'n talu teyrnged i unigolion meirw.[4]

Cysylltir trolio yn aml â chymuned Anonymous a gwefannau megis 4chan.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Cymreigiad o'r gair Saesneg troll yw "trôl". Dadleuol yw geirdarddiad y gair yn Saesneg. Mae'n bosib ei fod yn tarddu o'r ferf troll(ing), trolio yn Gymraeg, sef modd o bysgota lle llusgir llinynau trwy'r dŵr (nid i'w gymysgu â threillio, lle llusgir rhwyd bysgota neu dreillrwyd trwy'r dŵr). Yn yr achos hon gwelir troliau rhyngrwyd yn trolio am ymatebion emosiynol y tu ôl iddynt. Y geirdarddiad posib arall yw'r enw troll, trol yn Gymraeg, sy'n dynodi cawr ym mytholeg Llychlyn, creaduriaid sydd yn ddrygionus fel troliau rhyngrwyd.

Trolio a'r gyfraith[golygu | golygu cod]

Ym mis Hydref 2010 cafodd Colm Coss, dyn 36 oed o Fanceinion, Lloegr, ei ddedfrydu i 18 wythnos yn y carchar am bostio negeseuon aflan ar dudalennau Facebook oedd yn talu teyrnged i unigolion meirw, gan gynnwys Jade Goody. Galwodd ei hunan yn "drôl".[5]

Ym mis Medi 2011 cafodd Sean Duffy, dyn 25 oed o Reading, Lloegr, ei ddedfrydu i 18 wythnos yn y carchar am drolio wrth bostio ar wefannau Facebook a YouTube. Plediodd yn euog i ddanfon negeseuon anweddus neu sarhaus. Roedd ei bostiau yn targedu Natasha MacBryde, merch 15 oed a neidiodd o flaen trên wedi iddi gael ei bwlio. Derbyniodd Duffy hefyd ASBO sy'n ei wahardd rhag defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol am 5 mlynedd.[6]

Ym Mawrth 2012 carcharwyd Liam Stacey am ysgogi casineb hiliol wedi iddo bostio sylwadau ar wefan Twitter. Cafodd ei labelu'n drôl gan rai cyfryngau,[7][8] sy'n galw ar ddiffiniad cryn ehangach o drolio.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cronfa Genedlaethol o Dermau Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
  2. (Saesneg) Definition of: trolling. PCMAG.COM.
  3. (Saesneg) What is a troll?. Prifysgol Indiana (5 Mai 2008).
  4. (Saesneg) Police charge alleged creator of Facebook hate page aimed at murder victim. The Courier Mail (22 Gorffennaf 2010).
  5. (Saesneg) Jade Goody website 'troll' from Manchester jailed. BBC (29 Hydref 2010).
  6. (Saesneg) Reading man jailed for dead girl 'trolling' insults. BBC (13 Medi 2011).
  7. (Saesneg) Muamba 'troll' jailed after racist comments. ITV (30 Mawrth 2012). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.
  8. (Saesneg) Muamba Twitter troll is jailed. The Sun (27 Mawrth 2012). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.