Gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol

Oddi ar Wicipedia

Llwyfan yw gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol sy'n galluogi unigolion i gysylltu a rhannu cynnwys gyda phobl ar-lein sydd â'r un diddordebau neu weithgaredd, neu sydd yn awyddus i drafod diddordebau neu weithgareddau pobl eraill.

Mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol wedi creu ffyrdd newydd o gyfathrebu a rhannu gwybodaeth. Defnyddir gwefannau rhwydweithio cymdeithasol yn rheolaidd gan filiynau o bobl, ac ymddengys y bydd rhwydweithio cymdeithasol yn parhau i fod yn rhan o fywyd bob dydd. Y prif fathau o wasanaethau rhwydweithio cymdeithasol yw'r rhai hynny sy'n cynnwys categorïau megis disgyblion a fu yn yr un dosbarth yn ysgol, ffyrdd i gysylltu â ffrindiau (gan amlaf drwy ddefnyddio tudalen hunan-ddisgrifio) a systemau argymell. Mae'r dulliau mwyaf poblogaidd yn cyfuno'r elfennau hyn gyda dros 2.2 biliwn o bobl yn defnyddio Facebook yn fyd-eang. Mae sawl gwasanaeth wedi mynd a dod mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd a nifer o wasanaethau wedi cau lawr neu ei prynu a'i cyfuno.

Mae rhai gwefannau yn cael eu defnyddio yn bennaf mewn gwledydd neu ardaeloedd penodol, er enghraifft Nexopia (yng Nghanada); Bebo, Hi5, Tagged, Xing a Skyrock mewn rhannau o Ewrop; Orkut a Hi5 yn Ne America a Friendster, Orkut, Xiaonei a Cyworld yn Asia a'r Ynysoedd Tawel.

Ers dyfodiad ffonau clyfar mae nifer fawr o apiau cymdeithasol wedi datblygu, yn aml i gydfynd a gwefan.

Cafwyd ymdrechion i safoni'r gwasanaethau hyn er mwyn osgoi ailadrodd ffrindiau a diddordebau ond arweiniodd hyn at bryderon ynglŷn â phreifatrwydd.

Rhwydweithiau Cymreig[golygu | golygu cod]

Datblygwyd gwefan ac ap clecs yn 2014 gyda rhyngwyneb tebyg i Twitter, ond wedi ei anelu'n benodol at siaradwyr Cymraeg. Caewyd y wefan lawr ym Mai 2018.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]