Achos Liam Stacey

Oddi ar Wicipedia
Achos Liam Stacey

Achos llys ynghylch sylwadau a gyhoeddwyd ar wefan Twitter yn 2012 oedd achos Liam Stacey.

Ar 17 Mawrth 2012 cwympodd y pêl-droediwr du Fabrice Muamba wedi iddo gael ataliad ar ei galon mewn gêm rhwng ei glwb Bolton Wanderers a Tottenham Hotspur. Wrth i'r gêm gael ei darlledu'n fyw ar y teledu, bu niferoedd mawr o bobl yn cyhoeddi dymuniadau da a gweddïau iddo ar Twitter a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol eraill.

Cafodd Liam Stacey, myfyriwr bioleg 21 oed o Bontypridd sy'n mynychu Prifysgol Abertawe, ei arestio wedi i ddefnyddwyr eraill Twitter ar draws Prydain gwyno i'r heddlu am "sylwadau ffiaidd â chymhelliad hiliol" am Muamba a bostiodd ar y wefan. Ar 19 Mawrth plediodd Stacey yn euog i drosedd o dan y drefn gyhoeddus gerbron Llys Ynadon Abertawe, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod na fyddai'n mynd ar wefannau cymdeithasol tan iddo gael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf. Clywodd y llys i Stacey honni yn wreiddiol bod rhywun wedi hacio ei gyfrif ar y wefan a phostio'r negeseuon dan sylw cyn iddo geisio dileu'r dudalen. Dywedodd Stacey ei fod wedi meddwi tra'n gwylio gêm derfynol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng timoedd rygbi Cymru a Ffrainc.[1]

Ar 27 Mawrth cafodd Stacey ei ddedfrydu i garchar am 56 niwrnod. Cyhoeddodd Prifysgol Abertawe ddatganiad a ddywedodd bod Stacey "yn dal wedi ei wahardd o'r Brifysgol tan y bydd ein camau disgyblu ni wedi eu cwblhau".[2] Ar 30 Mawrth collodd Stacey ei apêl yn erbyn y dyfarniad yn Uchel Lys Abertawe.[3] Cafodd ei ryddhau ar ôl 28 diwrnod ac ymddiheuriodd yn gyhoeddus am yr hyn a wnaeth.[4] Gwaharddwyd Stacey o gampws Prifysgol Abertawe ond penderfynodd gwrandawiad disgyblu y bydd yn cael sefyll arholiad terfynol "fel ymgeisydd allanol mewn lleoliad arall" y flwyddyn nesaf, gyda'r cyfle i raddio in absentia.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cyfadde trydar sylwadau ffiaidd. BBC (19 Mawrth 2012). Adalwyd ar 2 Ebrill 2012.
  2.  Carchar i ddyn am drydar sylwadau hiliol am Fabrice Muamba. BBC (27 Mawrth 2012). Adalwyd ar 2 Ebrill 2012.
  3.  Myfyriwr yn colli apêl yn erbyn dedfryd o garchar. BBC (30 Mawrth 2012). Adalwyd ar 2 Ebrill 2012.
  4.  Muamba: Liam Stacey yn ymddiheuro am sylwadau hiliol. BBC (22 Mai 2012). Adalwyd ar 28 Mai 2012.
  5.  Liam Stacey yn cael sefyll arholiad ond ddim yn dychwelyd i'r Brifysgol. BBC (22 Mai 2012). Adalwyd ar 28 Mai 2012.