Ton ddisgyrchol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darluniad dau-ddimensiwn o donnau disgyrchol wedi eu cynhyrchu gan ddau seren niwtron yn cylchdroi eu gilydd.

Yn ffiseg, tonnau disgyrchol yw crychiadau yng nghrymedd gofod-amser sy'n lledaenu fel tonnau, yn teithio allan o'r ffynhonnell. Cawsant eu darogan yn 1916[1][2] gan Albert Einstein ar sail ei ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol,[3][4] mewn theori mae tonnau disgyrchol yn cludo egni fel "pelydriad disgyrchol". Ar 11 Chwefror 2016 cyhoeddodd y grŵp LIGO, Virgo interferometer a GEO600 eu bônt wedi darganfod prawf o fodolaeth tonnau disgyrchol ac enwyd y signal yn "GW150914".[5]

Mae'n bosib y gall ffynonellau o donnau disgyrchol gynnwys systemau sêr deuaidd wedi eu gwneud o gorachod gwynion, sêr niwtron, neu dyllau du. Mae bodolaeth tonnau disgyrchol yn ganlyniad posibl i anghyfnewidioldeb Lorentz ym mherthnasedd cyffredinol am ei fod yn cyflwyno'r syniad o gyfyngiad ar gyflymder lledu o gydadweithiau ffisegol. All tonnau disgyrchol ddim bodoli mewn damcaniaeth Newtonaidd o ddisgyrchiant, lle mae cydadweithiau ffisegol yn lledu ar gyflymder anfeidrol.

Cyn darganfod tonnau disgyrchol yn uniongyrchol roedd yna dystiolaeth anuniongyrchol o'u bodolaeth.[6] Er enghraifft, gwobrwywyd Gwobr Ffiseg Nobel 1993 am fesuriadau o system ddeuaidd Hulse–Taylor oedd yn awgrymu fod tonnau disgyrchol yn fwy na chysyniad damcaniaethol. Ar hyn o bryd mae sawl datgelydd tonnau disgyrchol yn cael eu hadeiladu neu yn gweithredu, fel yr Advanced LIGO a gychwynnodd ei arsylwadau ym Medi 2015.[7]


Gellir mynegi'r plygiad gofod-amser mewn perthynas â ar ffurf tensor Einsteinaidd, . yw'r cysonyn disgyrchol Newtonaidd, a yw cyflymder golau, felly .

Darganfod tonnau disgyrchiol, 2016[golygu | golygu cod y dudalen]

Mesuriadau LIGO yn synhwyryddion Livingston (chwith) a Hanford (dde), o'u cymharu gyda'r gwerthoedd a ragwelwyd.

Yn Chwefror 2016, cyhoeddodd y tîm Advanced LIGO eu bod wedi dod o hyd i donnau disgyrchol o wrthdrawiad tyllau du gyda signal a gyrhaeddodd am 10.51 GMT ar 14 Medi 2015[8] o ddau dwll du (30 mas solar) yn asio i'w gilydd tua 1.3 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Synhwyrwyd y signal gan ddau synhwyrydd LIGO: Livingston a Hanford, gyda gwahaniaeth amser o 7 milieiliad, oherwydd yr ongl rhwng y ddau synhwyrydd. Daeth y ddau signal o Hemisffer y De.[9][10] Cyfranodd gwyddonwyr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn sylweddol i'r darganfyddiad wrth ddatblygu algorithmau a modelau cyfrifiadurol o systemau tyllau deuaidd. Roedd y modelau yma yn cael eu defnyddio i ddadansoddi'r data enfawr a oedd yn cael ei gynhyrchu gan arbrawf LIGO.[11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Einstein, A (June 1916). "Näherungsweise Integration der Feldgleichungen der Gravitation". Sitzungsberichte der Königlich Preussischen Akademie der Wissenschaften Berlin part 1: 688–696. http://einstein-annalen.mpiwg-berlin.mpg.de/related_texts/sitzungsberichte.
  2. Einstein, A (1918). "Über Gravitationswellen". Sitzungsberichte der Königlich Preussischen Akademie der Wissenschaften Berlin part 1: 154–167. http://einstein-annalen.mpiwg-berlin.mpg.de/related_texts/sitzungsberichte.
  3. Finley, Dave. "Einstein's gravity theory passes toughest test yet: Bizarre binary star system pushes study of relativity to new limits.". Phys.Org. http://phys.org/news/2013-04-einstein-gravity-theory-toughest-bizarre.html.
  4. The Detection of Gravitational Waves using LIGO, B. Barish
  5. Naeye, Robert (11 February 2016). "Gravitational Wave Detection Heralds New Era of Science". Sky and Telescope. http://www.skyandtelescope.com/astronomy-news/gravitational-wave-detection-heralds-new-era-of-science-0211201644/. Adalwyd 11 February 2016.
  6. "First Second of the Big Bang".
  7. "The Newest Search for Gravitational Waves has Begun". LIGO. 18 September 2015. https://ligo.caltech.edu/news/ligo20150918. Adalwyd 29 November 2015.
  8. Overbye, Dennis (11 February 2016). "Physicists Detect Gravitational Waves, Proving Einstein Right". New York Times. http://www.nytimes.com/2016/02/12/science/ligo-gravitational-waves-black-holes-einstein.html. Adalwyd 11 Chwefror 2016.
  9. Gravitational waves: scientists announce 'we did it!' – live , The Guardian, 11 Chwefror 2016.
  10. "Einstein's gravitational waves found at last". Nature News. doi:10.1038/nature.2016.19361. http://www.nature.com/news/einstein-s-gravitational-waves-found-at-last-1.19361.
  11. Synhwyro tonnau disgyrchol am y tro cyntaf erioed , BBC Cymru Fyww, 6 Chwefror 2016.