Tomos Efans (Cyndelyn)
Tomos Efans | |
---|---|
Ffugenw | Cyndelyn |
Ganwyd | 1837 Llansanffraid Glan Conwy |
Bu farw | 10 Chwefror 1908 Llansanffraid Glan Conwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Bardd a Gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd y Parch Tomos Efans; Cyndelyn (1837 – 10 Chwefror 1908).
Ieuenctid
[golygu | golygu cod]Ganwyd Cyndelyn yn y Graig, Llansanffraid Glan Conwy, yr hynaf o chwech o blant i Ifan ab Ifan, gwas ffarm a Margaret ei wraig.
Derbyniodd rywfaint o addysg elfennol yn Ysgol Genedlaethol Llansanffraid gan adael yr ysgol yn 12 mlwydd oed er mwyn gweithio fel gwas ffarm. Yn fuan wedi ymadael a'r ysgol, ym 1849, cafodd ei fedyddio yn Llyn y Felin, Pentrefelin a'i dderbyn yn aelod o achos y Bedyddwyr yng nghapel Salem, Fforddlas.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 14 oed prentisiwyd Cyndelyn fel asiedydd yng ngwaith coed Hugh Hughes y Graig. Ym 1860 symudodd i dref Conwy i weithio fel saer coed i gwmni rheilffordd y London & North Western Railways. Wedi ychydig flynyddoedd fe'i penodwyd yn fforman seiri coed dosbarth Bangor o'r cwmni ac yna'n arolygydd pontydd y dosbarth hyd ei ymddeoliad ym 1904.[1]
Bywyd Teuluol
[golygu | golygu cod]Ym 1862 priododd Cyndelyn ag Ann Jones, Bryngolau, Ochr y Penrhyn, yng nghapel Annibynwyr Llandudno; bu iddynt naw o blant sef chwe mab a thair merch.
Gweinidogaeth
[golygu | golygu cod]Cafodd Cyndelyn ei ddylanwadu gan ddiwygiad mawr 1859 a dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol yn yr un flwyddyn. Cafodd ei ordeinio'n weinidog tua 1875, fel gweinidog heb ofal, yn gwasanaethu capeli'r Bedyddwyr yng Nghonwy, y Rowen, Fforddlas ac Eglwys-bach.
Bardd
[golygu | golygu cod]Bu Cyndelyn yn rhigymu ers yn ifanc, dysgodd y gynghanedd gan Cynddelw. Bu'n aelod pybyr o Arwest Glan Geirionydd ac fe'i derbyniwyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Bu'n feirniad ac yn arweinydd eisteddfodau poblogaidd ar hyd glannau Gogledd Cymru.
Gwasanaethodd fel bardd gwlad, yn bennaf, yn canu i briodasau a sgwennu beddargraffiadau cydnabod yn ardal Conwy a chanodd i bynciau llosg crefyddol a Rhyddfrydol ei ddydd.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref, Brynhyfryd, Llansanffraid Glan Conwy yn 71 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent Salem, Fforddlas.[2]
Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo ym 1936: Bywyd a Chan y Diweddar Barch Tomos Efans, Fforddlas, Glan Conwy gan J Gwyddno Williams, Llanefydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "England and Wales Census, 1901," database, FamilySearch (https://familysearch.org/ark:/61903/1:1:X9BZ-9YY : accessed 11 Chwefror 2016), Thomas Evans, Llansaintffraid Glan Conway (Denbigh), Caernarvonshire, Wales; from "1901 England, Scotland and Wales census," database and images, findmypast (http://www.findmypast.com : n.d.); citing Creuddyn subdistrict, PRO RG 13, The National Archives, Kew, Surrey.
- ↑ "Marwolaeth a Chladdedigaeth y Parch Thomas Evans Fforddlas Glan Conway - Seren Cymru". Papurau LlGC. William Morgan Evans. 1908-02-21. Cyrchwyd 2021-08-29.[dolen farw]
- J Gwyddno Williams, Bywyd a Chan y Diweddar Barch. Tomos Efans, Glan Conwy; Cyhoeddwyd Gan Edwin Evans LTSC (ei fab), Trallwyn, Glan Conwy 1936