Tomi Evans
Tomi Evans | |
---|---|
Ganwyd | Sir Benfro, Tegryn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Gwobr/au | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol |
Bu i Tomi Evans ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970 am ei gerdd ar y thema, Y Twrch Trwyth.[1]
Ganed ef yn ffarm 'Blaenffynnon', ym mhentref Tegryn yn Sir Benfro.[2] Dadorchuddwyd llechen er cof amdanno ar 21 Mai 2011 gan yr Archdderwydd ar y pryd, T. James Jones, Jim Parc Nest.[3]
Eisteddfodau
[golygu | golygu cod]Roedd Tomi Evans yn gystadleuwr ac enillydd amryw o eisteddfodau lleol ac enillodd y Goron ar ei gynnig gyntaf yn Eisteddfod Rhydaman 1970 ac yntau'n 65 oed.[3] Testun yr awdl oedd y 'Twrch Trwyth'. Gyrrwyd ef i'r Eisteddfod Genedlaethol gan ei nith.
Ceir dyluniad trawiadol i'r Gadair - gan ddefnyddio dyluniad o gadair Oesoedd Canol ond gyda deunydd cyfoes - o ddyluniad canoloesol ond wedi ei gwneud o fformeica gwyn a choch gyda brethyn gwyrdd ar y cefn a’r sedd. Gweler llun lliw o'r gadair ar dudalen 11 o'r Feidr, cylchgrawn Capel Mair, Aberteifi.[2] Symudwyd y Gadair i dŷ nith i Tomi Evans yn Llanfrothen wedi ei farwolaeth.
Bu Tomi Evans yn cymryd rhan yng nghyfresi Ymryson y Beirdd neu Dalwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-09. Cyrchwyd 2019-09-29.
- ↑ 2.0 2.1 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-09-02. Cyrchwyd 2019-09-29.
- ↑ 3.0 3.1 http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/289/desc/er-cof-am-y-prifardd-tomi-evans/index.html
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/straeon/010927gwyrsirbenfro.shtml