Toitū Te Reo
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl ddiwylliannol |
---|---|
Iaith | Maori |
Dechrau/Sefydlu | 2024 |
Toitū Te Reo (llyth. "Sefyll dros yr Iaith"?), yw'r ŵyl iaith Māori gyntaf a gynhelir yn benodol i ddathlu iaith, diwylliant a hunaniaeth Māori ac Aotearoa ehangach. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yng nghanol tref Heretaunga, (Hastings) ar 8 a 9 Awst 2024.[1] Yn ôl adroddiadau ar y digwyddiad, roedd yr ŵyl hanesyddol gyntaf hon yn llwyddiant[2] - gyda 7,000 o bobl wedi mynd i'r ŵyl.[3]
Hysbysir yr ŵyl fel dathliad dyrchafol o bopeth Māori sy'n cynnig cyfle i flasu bwyd a diwylliant Māori.
Seiliedig ar yr Eisteddfod
[golygu | golygu cod]Dywed gwefan y digwyddiad bod Toitū Te Reo yn seiliedig yr Eisteddfod Gymraeg. Noda ei fod yn gyfle i siaradwyr Maori rhugl a phobl sydd newydd ddechrau ar eu taith gyda'r iaith i ymgynnull gyda siaradwyr eraill rhugl.[4] Yn ôl y trefnwyr, mae’r ŵyl yn seiliedig ar yr Eisteddfod Genedlaethol wedi i'r academydd ac arbenigwr ar ddiwylliant Māori, Sir Tīmoti Kāretu gael ei ysbrydoli gan y Brifwyl wrth ymweld â Chymru.[5] Yn benodol, roedd y profiad o drochi ieithyddol yn apelio ato, a hynny wedi’i hwyluso gan y ‘rheol Gymraeg’ sy’n gofyn bod pob perfformiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Recordiwyd neges gan Archdderwydd Cymru, Mererid Hopwood o Eisteddfod Pontypridd yn datgan cefnogaeth i'r Toitū Te Reo gyntaf a chefnogaeth i ymgyrchwyr yr iaith Maori.[6]
Mae'r digwyddiad newydd yn estyniad o fentrau eraill gan gynnwys Te Wiki o te Reo Māori (wythnos iaith Māori).[5] Nodwyd mai dyma oedd dechrau "gwylaidd" i'r ŵyl a ysbrydolwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a'i bod yn uno pobl drwy'r iaith mewn digwyddiadau gan gynnwys cyngherddau am ddim ar un o brif strydoedd y dref.[7]
Partneriaeth
[golygu | golygu cod]Mae Toitū Te Reo yn bartneriaeth rhwng Ngāti Kahungunu Iwi Inc, Cyngor Dosbarth Hastings a chwmni Kauwaka o Te Matau-a-Māui, ac mae ganddo gefnogaeth Kīngi Tūheitia Pōtatau Te Wherowhero VII a chadeiriau iwi o ynys boblog y Gogledd ac Ynys y De.[1]
Breuddwyd
[golygu | golygu cod]Mae Toitū Te Reo yn ddyhead ers tro gan bencampwr iaith Maori uchel ei barch, yr academydd ac arbenigwr, Dr Sir Tīmoti Kāretu ac eraill, a bu'r hui ā-motu (cyfarfod genedlaethol) a gynhaliwyd yn Tūrangawaewae Marae ym mis Ionawr 2024 yn gatalydd ar gyfer gwireddu'r weledigaeth hon.[1]
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]Mae gŵyl Toitū Te Reo yn cynnwys digwyddiadau rhad ac am ddim gan gynnwys wānanga, slam barddoniaeth rangatahi, stondinau bwyd, stondinau gwybodaeth, gofod kōhanga reo, man encil i rieni, llwybr celf, arddangosiadau byw, manwerthu a chyngherddau stryd.
Uchafbwynt yr ŵyl oedd sioe amrywiaeth llawn-seren â thocynnau gyda chomedi stand-yp dwyieithog, cerddorion a kapa haka.[1]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Toitū Te Reo Maori a Saesneg
- Toitū Te Reo ar Facebook
- Eitem newyddion ar yr ŵyl gyntaf ar sianel deledu Maori, Te Karare 9 Awst 2024 (Maori gydag isdeitlau Saesneg)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "About". Gwefan Toitū Te Reo. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
- ↑ "Toitū Te Reo festival celebrates shared love for Māori language". 01 News. 10 Awst 2024.
- ↑ "Toitū Te Reo: World's first Te Reo Māori festival underway". Te Karere TVNZ. 9 Awst 2024.
- ↑ "Festival". Gwefan Toitū Te Reo. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
- ↑ 5.0 5.1 "Yr Eisteddfod yn ysbrydoli gŵyl yn Seland Newydd". BBC Cymru Fyw. 8 Awst 2024.
- ↑ "First Māori language Eisteddfod held". Nation.Cymru. 9 Awst 2024.
- ↑ "This weekend's Toitū Te Reo festival has nearly sold out". Hawke's Bay App ar Youtube. 6 Awst 2024.