Junts pel Sí
'Ie' Gyda'n Gilydd Junts pel Sí | |
---|---|
Arweinydd | Raül Romeva, Carme Forcadell, Muriel Casals, Artur Mas, Oriol Junqueras |
Sefydlwyd | 15 Gorffennaf 2015 (cyhoeddwyd) 20 Gorffennaf 2015 (yn swyddogol) |
Unwyd gyda | CDC ERC DC MES RI |
Rhestr o idiolegau | Annibyniaeth i Gatalwnia |
Gwefan | |
juntspelsi.cat |
Clymblaid wleidyddol yng Nghatalwnia ydy Junts pêl Sí (neu (JxSí); Cymraeg: Annibyniaeth Gyda'n Gilydd; Saesneg: 'Together for Yes') a ffurfiwyd yn unswydd i ymladd dros annibyniaeth i Gatalonia yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia a gynhelir ar 27 Medi 2015.
Mae'r JxSí yn gyfuniad o sawl plaid: Convergència Democràtica de Catalunya (CDC), Esquerra Republicana de Catalunya (ERC), Demòcrates de Catalunya, Moviment d'Esquerres, Avancem a Reagrupament Independentista.[1][2]
Cefnogir y clymblaid hwn hefyd gan gyrff fel Assemblea Nacional Catalana (Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia neu'r 'ANC'), Òmnium Cultural a Súmate, a chyrff gwleidyddol fel y Partit Socialista d'Alliberament Nacional (sef y 'PSAN'), a'r Candidatura d'Unitat Popular - Crida Constituent.
Lansiwyd y mudiad drwy gynhadledd yn yr awyr agored ar 20 Gorffennaf 2015.
Cyflwyno cynrychiolwyr y blaid newydd i'r dorf, 20 Gorffennaf 2015:
-
Artur Mas yn cerdded i'r cyflwyniad
-
Y cynrychiolwyr
-
Candidats i públic
-
Fi de festa
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ""Os cawn fwyafrif yna bydd Llywodraeth Catalonia'n cyhoeddi cychwyn y broses o Annibyniaeth," cyhoeddodd Romeva". Cyrchwyd 2015-07-20.
- ↑ ACN; adalwyd Gorffennaf 2015.