Thornhill, Dumfries a Galloway
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,660 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dumfries a Galloway ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 55.239°N 3.767°W ![]() |
Cod SYG | S20000317, S19000346 ![]() |
Cod OS | NX878955 ![]() |
![]() | |
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Thornhill.
Tref yn awdurdod unedol Dumfries a Galloway, yr Alban, yw Thornhill[1] (Gaeleg yr Alban: Bàrr na Driseig).[2]
Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 1,512 gyda 85.85% o’r rheiny wedi’u geni yn yr Alban a 11.18% wedi’u geni yn Lloegr.[3]
Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 2001 roedd 606 mewn gwaith. Ymhlith y prif waith yn y gymuned roedd:
- Amaeth: 4.62%
- Cynhyrchu: 11.22%
- Adeiladu: 8.91%
- Mânwerthu: 18.65%
- Twristiaeth: 5.94%
- Eiddo: 10.23%
Cysylltiad â Chymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl hanes teulu a grynhowyd gan ferched Syr John Rhys, a hanai o Bonterwyd a'i fam Jane Mason yn un o deulu Mason, gogledd Sir Aberteifi, ymsefydlodd dau gefnder, Lewys MacMazon a Richard Cox, porthmyn o Thornhill oedd yn arfer delio mewn defaid, ger Eisteddfa Gurig tua 1660. Lewis oedd y cyntaf â'r cyfenw i'r ardal. Dywedir hefyd fod ei gŵn o frîd gwahanol a arhosai am hir yn yr ardal a hwythau o dras Albanaidd hefyd.[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Mai 2022
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 6 Mai 2022
- ↑ Gwefan Cofnodion Cenedlaethol yr Alban Archifwyd 2009-01-05 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 15/12/2012.
- ↑ Mary Lloyd Jones, No Mod Cons (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2014), tt.31-3.