Thomas Newton

Oddi ar Wicipedia
Thomas Newton
Portread o'r Esgob Thomas Newton gan arlunydd anhysbys.
Ganwyd1 Ionawr 1704 Edit this on Wikidata
Caerlwytgoed Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 1782 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Anglicanaidd Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Bryste Edit this on Wikidata

Clerigwr Seisnig ac ysgolhaig Beiblaidd oedd Thomas Newton (1 Ionawr 170414 Chwefror 1782) a fu'n Esgob Bryste am yr 20 mlynedd olaf o'i oes, ac yn Ddeon Sant Pawl am 13 ohonynt.

Ganed ef yng Nghaerlwytgoed, Swydd Stafford. Mynychodd yr ysgol ramadeg yng Nghaerlwytgoed ac Ysgol Westminster yn Llundain cyn iddo gael ei dderbyn i Brifysgol Caergrawnt ym 1723. Enillodd ei radd baglor ym 1727 a'i radd meistr ym 1730, a fe'i etholwyd yn gymrawd yng Ngholeg y Drindod. Cafodd ei ordeinio'n ddeon yn niwedd 1729 ac yn offeiriad ym 1730 gan Edmund Gibson, Esgob Llundain.[1]

Nid oedd Newton yn nodedig am nerth naturiol ei alluoedd, nac am ei gyraeddiadau mewn dysg, ond yr oedd yn ddyn diargyhoedd, yn dra derbyniol a chymeradwy mewn cymdeithas, ac yn meddu gradd helaeth o wybodaeth gyffredinol a diwinyddol. Adwaenir ef yn bennaf fel awdur dau waith llenyddol, sef argraffiad o Paradise Lost gan John Milton gyda nodiadau, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1749, ac hefyd Dissertations on the Prophecies, y gyfrol gyntaf o ba un a ymddangosodd ym 1755. Yr oedd y naill a'r llall o'r gweithiau hyn yn uchel eu cymeriad yn eu dydd, er mai nid llawer o graffter na dysg a ganfyddir ynddynt. Heb law y gweithiau hyn, cyhoeddodd rai pregethau yn achlysurol, a llawer o draethodau ar bynciau ysgrythurol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Nigel Aston, "Newton, Thomas (1704–1782), bishop of Bristol", Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2021.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.